Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad Preifatrwydd – Newyddion CNPT

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (y cyngor) yn awdurdod unedol sydd wedi’i leoli yng Nghymru, y DU. Mae’r canlynol yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer cylchlythyr Newyddion CNPT (Newyddion CNPT)

Pam rydym yn cadw gwybodaeth bersonol?

Trwy danysgrifio i Newyddion CNPT, rydych yn rhoi eich caniatâd (yn unol ag Amod 1 Atodlen 2 Deddf Diogelu Data 1998 ac Erthygl 6[1][a] Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016) i’r cyngor anfon Newyddion CNPT i fewnflwch eich e-bost bob tro y caiff rhifyn newydd ei gyhoeddi (gallai hyn fod rhwng un a phedwar gwaith y mis). Ni fydd y cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth at unrhyw bwrpas arall.

Mae’r cyngor yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch fel ein bod yn gallu gwneud hyn:

  • Eich enw cyntaf/enw busnes, neu enw arall yr hoffech i ni ei ddefnyddio ar eich cyfer, fel ein bod yn gallu personoli ein e-byst atoch.
  • Eich cyfeiriad e-bost, fel ein bod yn gallu anfon Newyddion CNPT yn syth i fewnflwch eich e-bost
  • Eich iaith ddewisol, naill ai Cymraeg, Saesneg neu ein fersiwn ddwyieithog, fel ein bod yn gallu anfon Newyddion CNPT atoch yn eich iaith ddewisol
  • Eich cod post, sy’n ein helpu i wybod o le mae ein darllenwyr yn dod ac yn ein galluogi i anfon rhifynnau arbennig sy’n canolbwyntio ar newyddion o’ch ardal chi yn y dyfodol.

Sut rydym yn cadw gwybodaeth a phwy sy’n gyfrifol amdani?

Mae gan weithwyr y cyngor ddyletswydd gofal i chi wrth iddynt ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys parchu eich hawl i gyfrinachedd a sicrhau ein bod yn defnyddio gwybodaeth yn unol â’r caniatâd rydych wedi ei rhoi.

Swyddog Diogelu Data Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol y cyngor, a’i gyfeiriad yw Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

Rydym yn defnyddio darparwr gwasanaeth e-bost o’r enw Email Blaster i drin ein data ar gyfer Newyddion CNPT. Mae’r rhestr e-bostio a’r wybodaeth am danysgrifwyr yn cael eu cadw ar weinyddion Email Blaster yn eu canolfan data manyleb lefel 4 yn Milton Keynes (mae lefel 4 yn golygu ei bod yn glynu wrth y lefelau diogelwch uchaf). Mae’r holl wybodaeth yn cael ei chadw yn y DU ac ni fydd yn cael ei chadw dramor na’i allforio. Mae felly yn cael ei hamddiffyn gan gyfraith y DU, fel Deddf Diogelu Data 1998.

Mae Email Blaster yn enw masnachol i JC Peters Ltd, sydd wedi’i leoli yn Silverstone, Northamptonshire. Mae gan y cwmni ei weinyddion, ei rwydwaith a’i is-adeiledd TG ei hun.

 phwy rydym yn rhannu’r wybodaeth hon?

Os ydych yn tanysgrifio i Newyddion CNPT, bydd y cyngor yn defnyddio darparwr gwasanaeth e-bost o’r enw Email Blaster i gadw eich manylion. Nid yw Email Blaster yn cael ei reoli gan y cyngor ac y mae wedi’i leoli yn y DU, gyda’r data wedi’i gadw ar weinyddion yn Milton Keynes, felly mae’n cael ei amddiffyn gan gyfraith y DU. Ni fydd y cyngor nac Email Blaster byth yn rhoi eich cyfeiriad e-bost na’ch manylion i neb arall ond er mwyn diwallu anghenion cyfreithiol (gan gynnwys cydymffurfio â gorchmynion llys).

Mae disgwyl i ni roi gwybodaeth yn gyfnodol i gyfarfodydd y cyngor a’r Cabinet er mwyn gwerthuso Newyddion CNPT. Pan rydym yn gwneud hyn byddwn yn cyflwyno’r wybodaeth yn ddienw. Felly, ni fydd yn cynnwys unrhyw beth y gellir ei ddefnyddio i’ch adnabod chi – megis eich enw a’ch cyfeiriad, ond bydd yn cynnwys manylion am ein tanysgrifwyr yn gyffredinol, fel nifer y tanysgrifwyr i Newyddion CNPT, amrediad daearyddol y tanysgrifwyr, faint o bobl sy’n clicio ar erthyglau penodol, canran y tanysgrifwyr am y fersiynau Cymraeg a Saesneg, etc.

Email Blaster

Ni fydd Email Blaster yn copïo nac yn addasu rhestrau e-bostio Newyddion CNPT na chynnwys yr e-byst (yn llwyr neu’n rhannol), nac yn eu trosglwyddo i drydydd parti.

Nid yw Email Blaster yn casglu nac yn defnyddio gwybodaeth danysgrifio’r cyngor at ei ddibenion ei hun. Mae’r holl ddata y mae’r cyngor yn cyflwyno i Email Blaster yn cael ei gadw’n gyfrinachol ac yn eiddo i’r cyngor.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut mae Email Blaster yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am y cyngor fel defnyddiwr Email Blaster, gwelwch y Termau a’r Datganiad preifatrwydd.

Eich hawliau gwybodaeth bersonol

Mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • Gofyn a ydym yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch
  • Gofyn at ba ddiben rydym yn defnyddio’r wybodaeth
  • Cael copi o’r wybodaeth rydym yn ei chadw
  • Gwybod a ydym yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i bobl neu sefydliadau eraill
  • Gofyn i ni gywiro unrhyw ddata anghywir rydym yn ei gadw
  • Gofyn i ni ddileu eich data ar unrhyw adeg

Byddwn yn ymateb i'ch ceisiadau’n brydlon.

Cyfnod Cadw Cofnodion

Byddwn yn cadw ac yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol cyhyd ag y byddwch yn danysgrifiwr i Newyddion CNPT. Byddwn yn adolygu hyn yn gyfnodol ac yn anfon neges at bawb ar ein rhestr ddosbarthu ar 31/03/21 i ofyn a ydych am dderbyn ein cylchlythyrau o hyd.

Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.