Coronafeirws (Covid-19) y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf Mwy… × Etholiadau sydd i Ddod Cyngor Castell-nedd – Is Etholiad Ward Aberafan – GOHIRO TAN SYLWAD BELLACH Cyngor Cymuned Gwaun-Cae-Gurwen – Is Etholiad Ward Brynaman Isaf - GOHIRO TAN SYLWAD BELLACH Cyngor Tref Castell-nedd - Is Etholiad Ward Mount Pleasant - GOHRIO TAN SYLWAD BELLACH Cyngor Tref Coedffranc - Is Etholiad Ward Gogledd - GOHIRIO TAN SYLWAD BELLACH Pryd y cynhelir etholiadau? Etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot: Caiff cynghorwyr eu hethol unwaith bob pedair/pum blynedd yn etholiadau'r cyngor. Bydd cyfle i ymgeiswyr sefyll dros holl seddau'r Cyngor Bwrdeistref Sirol, 64 ohonynt, ar gyfer y 42 Adran Etholiadol. Etholiadau Cynghorau Cymuned: Caiff cynghorwyr eu hethol unwaith bob pedair/pum blynedd yn etholiadau'r cyngor. Bydd cyfle i ymgeiswyr sefyll dros holl seddau'r Cynghorau Tref/Cymuned, 249 ohonynt, ar gyfer y 52 Cymuned/Ward Gymunedol. Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig: Caiff aelodau seneddol eu hethol unwaith bob pum mlynedd o 2015. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am etholiadau yn etholaeth Aberafan a Chastell-nedd. Etholiadau Senedd: Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol unwaith bob pum blynedd. Mae Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am yr etholiadau yn etholaethau Aberafan a Chastell-nedd. Bydd etholwyr hefyd yn pleidleisio dros 4 Aelod Rhanbarthol ar gyfer Rhanbarth Etholiadol Gorllewin De Cymru. Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddau: Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau yn cael eu hethol unwaith bob pedair blynedd. Mae Castell-nedd Port Talbot yn rhan o Ardal Heddlu De Cymru ar gyfer yr etholiadau hyn. Is-etholiad: Gall is-etholiad gael ei gynnal ar unrhyw adeg os bydd swydd wag achlysurol yn sgîl, er enghraifft, ymddeoliad aelod etholedig.