Gollwng Sbwriel yn Anghyfreithlon
Os gwelwch chi wastraff sydd wedi cael ei ollwng yn anghyfreithlon:
- â chyffwrdd â’r gwastraff na’i symud. Gallai gynnwys pethau peryglus neu niweidiol fel nodwyddau, gwydr sydd wedi torri, asbestos neu gemegion gwenwynig
- ag ymyrryd â dim ar y safle. Os oes tystiolaeth yn y gwastraff, gall fod gofyn i chi gyflwyno datganiad tyst a mynd i’r Llys
- â mynd at unrhyw un rydych chi’n eu gweld yn gollwng sbwriel
Gollwng sbwriel yn anghyfreithlon yw gadael hylif neu wastraff solet yn anghyfreithlon ar dir neu mewn dŵr. Fel arfer mae’r gwastraff yn cael ei adael er mwyn osgoi costau gwaredu.
Mae gollwng gwastraff yn anghyfreithlon yn dramgwydd droseddol ddifrifol. Y gosb uchaf amdani yw dirwy heb derfynau a hyd at 5 mlynedd yn y carchar.
Hefyd gellir cipio unrhyw gerbydau sy’n ymwneud â gollwng sbwriel yn anghyfreithlon. Mae gennym ni hanes o erlyn yn llwyddiannus. Byddwn ni’n cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw droseddwyr pan fydd digon o dystiolaeth.
Rhoi gwybod am ollwng sbwriel yn anghyfreithlon
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am sbwriel a ollyngwyd yn anghyfreithlon. Rhowch wybod i ni am y gwastraff cyn gynted â phosibl, os gwelwch yn dda.
Darparwch yr wybodaeth ganlynol, os gwelwch yn dda:
- Eich enw a’ch manylion cyswllt. Efallai bydd angen i ni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.*
- Y dyddiad a’r amser pan welsoch chi’r gwastraff gyntaf
- Y math o wastraff
- Yr union leoliad
- Ffotograff os oes modd
Gollwng sbwriel yn anghyfreithlon ar waith
Os gwelwch rywrai’n gollwng sbwriel yn anghyfreithlon, peidiwch â mynd yn agos atyn nhw na rhoi eich hun mewn sefyllfa lle gallech chi fod mewn perygl. Cysylltwch â’r Tîm Gorfodi Gwastraff trwy ein Canolfan Gyswllt ar 01639 686868 yn ystod oriau gwaith. Y tu allan i oriau gwaith arferol, ffoniwch yr Heddlu ar 101.
Gofynnir i chi nodi::
- y cerbydau sy’n cael eu defnyddio (gwneuthuriad, lliw a rhif cofrestru)
- faint o bobl sydd yno, a sut maen nhw’n edrych
- y math o wastraff sy’n cael ei ollwng yn anghyfreithlon
- y lleoliad
Byddwn ni’n clirio sbwriel a ollyngwyd o’r briffordd gyhoeddus cyn gynted â phosibl.
Dyletswydd Gofal Perchnogion Tai
Mae dyletswydd gofal ar berchnogion tai i waredu eu gwastraff domestig yn gywir. Ar gyfer sbwriel ac ailgylchu arferol o’r cartref, gallwch chi ddefnyddio’r gwasanaethau hyn:
- gwasanaeth ailgylchu wythnosol o ymyl y ffordd
- gwasanaeth casglu gwastraff swmpus
- Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu o’r Cartref
Cludwyr gwastraff cofrestredig
Os oes gennych chi lawer o wastraff rydych chi’n methu ei roi yn eich bin neu fynd ag ef i ganolfan ailgylchu, gallwch chi ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig.
Wrth ddefnyddio cludwr gwastraff dylech wneud y canlynol:
- Gofyn iddyn nhw roi eu henw llawn, eu cyfeiriad a’u rhif ffôn i chi
- Gofyn am weld eu Trwydded Cludwr Gwastraff (Gwiriwch am gludwyr gwastraff cofrestredig ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru). Os na fedran nhw ei ddangos i chi, efallai nad ydyn nhw’n gyfreithlon.
- Gofalwch eich bod yn derbyn ‘Nodyn Trosglwyddo’ (Derbynneb Swyddogol) gan y cludwr.
- Nodwch rif cofrestru cerbyd y cludwr.
- Gofynnwch am dderbynneb ar bapur pennawd – bydd cwmni dilys yn darparu un yn awtomatig.
- Gofynnwch i ble maen nhw’n mynd â’ch gwastraff – bydd cwmni dilys yn gallu dangos nodiadau trosglwyddo o’r ganolfan ailgylchu gwastraff maen nhw’n ei defnyddio i chi.
Gwastraff Masnachol
Gellir cael gwared ar wastraff ac ailgylchu masnachol am ffi drwy ddefnyddio gwasanaethau gwastraff masnachol y cyngor.