Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ffurflen Gais Postio

Anfon eich ffurflen gais a'r dyddiadau cau

Gan fod y Post Brenhinol wedi cyflwyno Prisio Cyfrannol, mae'n hollbwysig eich bod yn dychwelyd eich ffurflen gais mewn amlen o'r maint cywir ac yn talu'r pris cywir am ei phostio. Ni fydd stamp dosbarth cyntaf cyffredin yn ddigonol.

Noder na fydd yr Awdurdod yn gyfrifol am unrhyw ffurflenni cais sy'n cyrraedd yn hwyr. Ni fydd unrhyw ffurflenni cais hwyr yn cael eu hystyried.

Efallai bydd ymgeiswyr yn dewis cyflwyno cais ar-lein er mwyn sicrhau bod eu ffurflen gais yn cyrraedd yn brydlon, ac yn ddi-dâl!

DYCHWELWCH EICH FFURFLEN GAIS AT:-

Y Tîm Recriwtio AD
Y Ceiau
Ffordd Brunel
Parc Ynni Baglan
SA11 2GG

GWYBODAETH YNGHYLCH DYDDIADAU CAU SWYDDI

Sylwer na fydd ffurflenni cais a gyflwynir ar ôl 10.00 am ar y dyddiad cau a nodir yn cael eu derbyn. Nid yw amlen gyda marc post y dyddiad cau'n ddigonol. Felly, bydd ffurflenni cais a bostiwyd ar y dyddiad cau yn cyrraedd yn rhy hwyr ac yn annerbyniol.

Caiff swyddi eu dileu'n awtomatig oddi ar y wefan hon am 10.00 am am ar y dyddiad cau a nodir. Mae ffurflenni cais ar-lein yn nodi'r amser y cyflwynwyd y ffurflen, felly bydd unrhyw ffurflen gydag amser ar ôl 10.00 am arni yn "hwyr".