Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cynllun Cymeradwyo Masnachwyr Cenedlaethol Prynu Gyda Hyder

Cynllun cymeradwyo masnachwyr a gydnabyddir yn genedlaethol yw Prynu gyda Hyder, a'i nod yw rhoi sicrwydd i gwsmeriaid a busnesau pan fyddant yn prynu nwyddau a gwasanaethau.

Fe'i sefydlwyd oddeutu 20 mlynedd yn ôl mewn ymateb i bryderon ynghylch 'masnachwyr twyllodrus' a dymuniad cyffredinol i wella'r safonau ar draws sectorau masnachu penodol.



Gwybodaeth i fasnachwyr

Trwy gofrestru ar gyfer y cynllun 'Prynu gyda Hyder', gallwch ddweud bod eich busnes wedi'i gymeradwyo gan Safonau Masnach. Mae'r manteision yn cynnwys:

• defnyddio'r logo sy'n dangos eich bod wedi'ch cymeradwyo gan Safonau Masnach
• mynediad uniongyrchol at gyngor gan weithwyr proffesiynol Safonau Masnach a gyflogir gan yr awdurdod lleol
• cael eich ychwanegu at y cyfeirlyfr busnesau 'Buy with Confidence'
• dod yn rhan o gynllun i helpu i amddiffyn eich cymuned rhag masnachwyr twyllodrus
• derbyn gwybodaeth yn rheolaidd am newidiadau i'r gyfraith a allai effeithio ar eich busnes
• cynllun nid er elw a gynhelir gan awdurdodau lleol, felly mae'n holl ffioedd yn cael eu hailfuddsoddi i gynnal a hyrwyddo'r cynllun

Cofrestrwch

Mae'r cynllun ar gael i'r rhan fwyaf o fusnesau sy’n delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid.
Caiff busnesau eu cynnwys pan fyddant wedi cwblhau cyfres o wiriadau manwl yn unig, gan gynnwys ymweliad gan weithiwr proffesiynol cymwys Safonau Masnach.

Costau

Codir ffi gofrestru o £100 i ymuno â'r cynllun, yn ogystal â ffi flynyddol o:

• 0-6 gweithiwr - cyfradd lawn £308.40
• 6-20 gweithiwr - cyfradd lawn £462
• 21-49 gweithiwr - cyfradd lawn £615.60

CYNNIG: Bydd y 10 busnes cyntaf sy'n cofrestru ar gyfer y cynllun yn derbyn ffi flynyddol ostyngol o 50% ar gyfer y flwyddyn gyntaf (0-6 gweithiwr £154.20, 6-20 gweithiwr £231.00, 21-49 gweithiwr £307.80).

Gwybodaeth i breswylwyr

Mae pob busnes a restrir yn y cyfeirlyfr busnesau 'Buy with Confidence' wedi'i gymeradwyo a'i archwilio a bydd Safonau Masnach yn parhau i'w archwilio i sicrhau ei fod yn gweithredu mewn ffordd gyfreithiol a gonest.

Manylion Cyswllt

Am ragor o wybodaeth am y cynllun 'Prynu gyda Hyder' defnyddiwch y manylion cyswllt canlynol:

E-bost: tsd@npt.gov.uk
Ffôn: 01639 686868 / 01639 685310