Cwynion
Cwynion
Os ydych o'r farn nad yw'r Awdurdod yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gallwch yn y lle cyntaf gyflwyno cwyn ysgrifenedig ffurfiol i'r Swyddog Monitro'r Awdurdod yn nodi sail eich cwyn. Er enghraifft, efallai y byddwch yn ystyried y canlynol: -
- Mae wedi defnyddio eithriad i wrthod datgelu gwybodaeth nad yw'n berthnasol o dan yr amgylchiadau;
- Mae wedi methu ag ymateb i'ch cais, neu wedi methu â gwneud hynny o fewn y terfyn amser a nodir yn y Ddeddf; neu
- Mae wedi codi taliadau afresymol am ddarparu'r wybodaeth.
Cyfeiriad Swyddog Monitro'r Awdurdod yw:
- Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd,
Canolfan Ddinesig,
Port Talbot,
SA13 1PJ
Os ydych wedi gwneud cwyn i Swyddog Monitro'r Awdurdod a'ch bod yn anfodlon ar ei ymateb, gallwch gwyno'n uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae gan y Comisiynydd Gwybodaeth bwerau i gyhoeddi hysbysiadau penderfyniadau a hysbysiadau gorfodi ar awdurdodau cyhoeddus i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf mewn amgylchiadau priodol.
Cyfeiriad yComisiynydd Gwybodaethyw:-
- Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,
Tŷ Wycliffe,
Lôn y Dŵr,
Wilmslow,
SK9 5AF - Ffôn: 08456 306060
Noder y dylai cwynion i'r Comisiynydd Gwybodaeth cael ei gyflwyno i'w swyddfa cyn gynted ag y bo modd ac yn ddelfrydol heb fod yn hwyrach na dau fis ar ôl i awdurdod cyhoeddus darparu'r ceisiwr gyda'i hymateb.