Gŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot 2022
Hydref - Tachwedd 2022
Diben yr ŵyl yw talu teyrnged i'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan gynnwys y meirwon a chyn-filwyr o'r ddwy Ryfel Byd a rhyfeloedd byd-eang eraill. Mae hi hefyd yn anrhydeddu'r sawl sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, ynghyd â'u teuluoedd, am y cyfraniad parhaus maent yn ei wneud i'r wlad hon a thramor.
Ymunwch â ni i ddathlu a chofio cyfraniad y lluoedd arfog at ein cymunedau, ddoe a heddiw.
Bydd gŵyl eleni yn cynnwys:
- Nos Wener 11 Tachwedd 2022 (7pm)
- Gwyl Lluoedd Arfog Maer Castell Nedd Port Talbot yn cynnwys Gwasanaeth Coffa
Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot
Gwesteion arbennig: Kirsten Orsborn, Kev Johns, Cor Meibion Bois Afan, John Campbell - Bagbibydd, Band Pres Ieuenctid Cerdd CnPT. Mwy o wybodaeth
Prynwch docynnau
- Gwasanaethau Diwrnod y Cofio Dydd Sul 13 Tachwedd 2022
Port Talbot - Bydd y Maer, y Cynghorydd Robert Wood, yn bresennol yn y Senotaff yn y Parc Coffa, Taibach ar gyfer y Gwasanaeth Cofio a gosod torchau. Fe'ch gwahoddir i ymuno â'r Maer yn y Senotaff o 10.30 am ac yn dilyn y Gwasanaeth yn y RBL Clubhouse am luniaeth.
Castell-nedd - Bydd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Chris Williams, yn mynychu gwasanaeth yn Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd yn dechrau am 10am (yn eistedd erbyn 9.45am), ac yna gosod torchau yng Ngiatiau Coffa'r Gnoll am 11am. Gofynnir i'r rhai sy'n mynychu wneud eu ffordd eu hunain i'r Pyrth Coffa, gan ddefnyddio palmentydd a mannau croesi ffyrdd.
Pontardawe
I gwrdd yn y Gofeb Ryfel ar Stryd Herbert o 10.30 am, Distawrwydd am 11am ac yna gosod torchau.