Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Swyddi Gwag Gwaith Cymdeithasol

Swyddi Gwag yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc  

Mwy...

Mae ein gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc (PPI) yn cael ei ystyried yn un o berfformwyr blaenllaw Cymru ar gyfer ein gwaith o gyflawni canlyniadau cadarnhaol i bant, pobl ifanc a'u teuluoedd, yn ogystal â lleihau nifer y plant sydd â phrofiad o ofal yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ddiogel.

Byddwch yn ymuno â thîm o ymarferwyr gwaith cymdeithasol profiadol, gweithwyr cefnogi a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymroddedig i wneud y gorau y gallant ar gyfer y plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd rydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw gan ddefnyddio cynlluniau pwrpasol a chreadigol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.

Ein Gweledigaeth

Rydym yn credu y caiff anghenion plant eu diwallu orau gan eu teuluoedd eu hunain os gellir eu cefnogi'n ddiogel. Rydym yn gweithio'n agos gyda theuluoedd, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a chymunedau er mwyn gwneud gwahaniaeth i les pobl, ac i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc. Drwy adeiladu perthnasoedd ac ymddiriedaeth, rydym yn gobeithio clywed am yr hyn sydd wir yn digwydd ym mywydau pobl. Rydym am helpu pobl i gael yr hyder i feddwl y gall pethau newid er gwell. Rydym yn canolbwyntio ar adeiladu ar gryfderau pobl a datblygu dealltwriaeth a rennir o sut fath o olwg sydd ar fywyd da, a sut gallwn helpu teuluoedd i weithio tuag at hyn.

Gallwch ddarllen rhagor am ein harfer yma: Model arfer sy'n seiliedig ar gryfderau (Arfer sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau) https://www.npt.gov.uk/33290?lang=cy-gb

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Rydym o blaid gwobrwyo a chydnabod ymdrechion a chyflawniadau ein cydweithwyr. Rydym hefyd o'r farn bod bywyd yn y gwaith a bywyd y tu allan i'r gwaith. Rydym am i bawb fod yn hapus ac yn iach, a chael yr adnoddau ariannol a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Yn ogystal â chynnig cyflogau cystadleuol, mae gennym wobrau a buddion gwych i'w cynnig i staff gan gynnwys ein cynllun adleoli, y cynllun beicio i'r gwaith, aelodaeth gampfa am bris rhatach a chynigion staff.

Rydym hefyd yn ymroddedig i sicrhau bod gan ein staff gydbwysedd bywyd a gwaith sy'n addas ar eich cyfer, gan gynnwys hawliad gwyliau blynyddol hael, cynllun oriau hyblyg, cynllun gweithio llai o oriau, cynllun oriau cywasgedig, cyfleoedd gweithio hybrid, cynllun absenoldeb arbennig a llawer mwy.  Gallwch ddarllen rhagor am hyn yma https://www.npt.gov.uk/30971

 Datblygiad Gyrfa

Mae datblygiad gyrfa wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud. Rydym am i'n staff fod yn  uchelgeisiol ac yn llawn cymhelliant, gyda'r nod o wneud cynnydd yn eu rolau. Am y rheswm hwn, rydym yn cynnig rhaglen sefydlu gynhwysfawr, yn darparu goruchwyliaeth ac arfarniadau rheolaidd a chyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ardderchog.

Swyddi gwag presennol

Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa yn y gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, gan gynnwys swyddi ar gyfer gweithwyr cymdeithasol profiadol a newydd gymhwyso, yn ogystal ag amrywiaeth o rolau yn y timau Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.

I weld ein rhestr ddiweddaraf o swyddi gwag ewch i www.npt.gov.uk/jobs