Cyfeirio a Hanes Teulu
Adnoddau Ar-Lein - Ancestry
Gallwch ymchwilio i'ch hanes teuluol mewn unrhyw Llyfrgell CNPT gan ddefnyddio Ancestry Library Edition.
Tra ein bod ar gau gallwch gyrchu Ancestry Library Edition gartref. Mewngofnodi gyda'ch rhif cerdyn a'ch cod pin, ac yna cliciwch ar y ddolen.
Archwiliwch eich hanes teulu gydag Ancestry.
- 820 miliwn o gofnodion teulu chwiliadwy yn y DU
- Cyfrifiadau Cymru, Lloegr a'r Alban o 1841 i 1901
- Cofnodion Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Cymru a Lloegr o 1837 i 2005.
Dim ond o gyfrifiadur llyfrgell y ceir mynediad at Ancestry Library Edition.
Casgliadau Cyfeirio a Hanes Lleol
Mae gan lyfrgelloedd Castell-nedd a Port Talbot gasgliadau cyfeirio cynhwysfawr sy'n cynnig mynediad i amrywiaeth eang o lyfrau, papurau newydd a chylchgronau.
Yn ein hadrannau astudiaethau lleol, mae gennym gasgliadau helaeth o lyfrau hanes lleol sy'n cwmpasu'r ddwy dref a'r ardaloedd cyfagos a Chymru'n gyffredinol.
Mae gennym hefyd fapiau arolwg ordnans cyfredol a hanesyddol, papurau newydd lleol, mwy na 2000 o ffotograffau, cofnodion cyfrifiad, cofrestri etholiadol a chofnodion cynghorau.
Bellach hefyd mae gwasanaeth WiFi AM DDIM ar gael yng Nghastell-nedd a Phort Talbot (ynghyd â llyfrgell Pontardawe a Chwmafan). Os ydych yn aelod o'r llyfrgell, gallwch gyrchu WiFi am ddwy awr y dydd.
Gallwch hefyd gyrchu adnoddau cyfeirio ar-lein AM DDIM.
Os ydych newydd ddechrau ymchwilio i hanes eich teulu neu os ydych wedi darganfod cymaint ag y medrwch ar eich pen eich hun, beth am alw heibio yn llyfrgell Castell-nedd neu Bort Talbot i weld a allwch ddarganfod mwy.
Yn Llyfrgell Castell-nedd gallwch drefnu sesiwn gyflwyno hel achau un i un gyda'r staff. Mae hynny'n cynnwys cyflwyniad i'r holl adnoddau sydd ar gael yn y llyfrgell a thiwtorial ar-lein ar gyfer Ancestry.co.uk (library edition).
Mae Llyfrgell Port Talbot hefyd yn cefnogi ymchwil hanes teulu a hanes lleol mewn sawl ffordd:
- Sesiynau ymchwil hanes teuluol misol gydag Archifau Gorllewin Morgannwg (gellir eu harchebu)
- Cyfarfodydd misol hanes lleol sy'n agored i bawb
- Mynediad i bapurau newydd Port Talbot Guardian ar ficrofiche
- Mynediad i ficroffilm, microfiche a rhyngrwyd am ddim a Wifi
Felly os ydych yn ymchwilio i hanes eich teulu neu am ateb i gwestiwn, gallwn helpu.
Cysylltwch â
Llyfrgell Port Talbot
- E-bost: porttalbot.library@npt.gov.uk
- Ffon: 01639 763 490
Llyfrgell Castell-Nedd
- E-bost: neathref.library@npt.gov.uk
- Ffon: 01639 640 138
Olrhain hanes eich teulu ar-lein am ddim yn eich llyfrgell leol
Ddim yn gwybod ble i ddechrau? Yna mae help wrth law wrth ddefnyddio cyfrifiadur llyfrgell!
Mae sesiynau galw heibio anffurfiol yn eich helpu i ddefnyddio gwefan Llyfrgelloedd Ancestry yn ddi-dâl trwy'ch llyfrgell leol gyda Swyddog Addysg Treftadaeth, Harriet Eaton.
Am fwy o wybodaeth gofynnwch yn eich llyfrgell neu cysylltwch â Harriet Eaton, Swyddog Addysg Treftadaeth yn Llyfrgell Castell-nedd (01639) 644604.
Os oes diddordeb gennych mewn hanes lleol, beth am fynd i’n tudalennau Amgueddfeydd? Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan, mae gan Gastell-nedd Port Talbot nifer o grwpiau hanes a threftadaeth gwirfoddol sy’n gweithio’n frwdfrydig i ymchwilio i dreftadaeth gyfoethog yr ardal, ei chadw a threfnu ei bod ar gael.