Melltith digartrefedd a chysgu allan

Mae pawb yn haeddu cael cartref diogel, saff iddyn nhw eu hunain.

Fodd bynnag, ers 2010 mae digartrefedd wedi dyblu ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n dorcalonnus ein bod ni, yn ein dyddiau ni, yn gweld cynifer o deuluoedd heb gyfle i gael man sefydlog y gallan nhw fyw a ffynnu ynddo.

Nid yw sefyllfa Castell-nedd Port Talbot yn unigryw o ran y galwadau cynyddol ar ein gwasanaeth digartrefedd. Mae nifer yr aelwydydd y cafwyd eu bod yn ddigartref, ac y mae dyletswydd ar y Cyngor i’w helpu i gael hyd i lety wedi codi 21% ers 2015-16. Mae nifer y bobl, yn deuluoedd ac unigolion, sydd mewn llety dros dro (gan gynnwys Gwely a Brecwast) hefyd wedi cynyddu.

Mae hyn yn gwbl annerbyniol.

Gall digartrefedd gael ei achosi gan lawer o ffactorau. Yn aml, mae’r rhai sy’n ddigartref yn wynebu mwy nag un o’r ffactorau hynny.

Mae perchnogaeth ar gartref, yn arbennig ymhlith rhai o dan 45 oed, wedi gostwng yn sylweddol. Mae’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf yn cael mwy a mwy o anhawster i wneud hynny. Ffactorau eraill sy’n cyfrannu at y sefyllfa yw ansicrwydd y rhai sy’n rhentu’n breifat am bris uchel, amodau byw gwael a diffyg dilyniant. Yn yr un modd, mae’r pwysau o ran tai fforddiadwy yn gadael ei ôl ar y sefyllfa.  

Os ychwanegwch at hynny benderfyniadau’r llywodraeth ganolog ar gyflogau, polisi tai, cyni a newidiadau i’r system les, gan gynnwys cyflwyno Credyd Cynhwysol, byddwch chi’n dechrau deall y rhesymau am y cynnydd sydyn mewn digartrefedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Mae llawer o’r pethau hyn y tu hwnt i reolaeth awdurdodau lleol, ac fel Cyngor, y cyfan y gallwn ni ei wneud ar y materion hyn yw lobïo a dadlau dros newid, yn hytrach na dylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau. Fodd bynnag, fe allwn ni sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu darparu’n lleol i helpu pobl sydd mewn sefyllfa fregus mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.

Yn gynharach y mis yma, cymeradwywyd yn ffurfiol ein Strategaeth Ddigartrefedd newydd i Gastell-nedd Port Talbot, ar gyfer y cyfnod 2018-22. 

Mae’n dilyn ymgynghori helaeth ac adolygu’r system bresennol, ac yn argymell cymorth â mwy o ffocws yn y gymuned, ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer y bobl hynny sydd ag anghenion cymhleth fel iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau ac ymwneud â chyfiawnder troseddol, yn ogystal ag edrych ar ffyrdd newydd o gael hyd i atebion tai parhaol yn gyflymach, er mwyn lleihau’r galw am lety dros dro.

Mae Dogfen y Strategaeth ei hun i’w gweld yma: https://democracy.npt.gov.uk/documents/s42835/Appendix%201%20-%20NPT%20Homelessness%20Strategy%202018-22%20-%2016.11.18.pdf

Nawr dilynir y Strategaeth gan gynllun gweithredu manwl, amlasiantaeth, sydd i’w gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

Ni ellir cyflawni hyn i gyd heb ffocws clir ar weithio mewn partneriaeth. Rhaid i wahanol adrannau mewnol y Cyngor gydweithio’n well, a dylai’r berthynas rhwng y Cyngor, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y Sir, iechyd a sectorau eraill fod mor ddi-fwlch â phosibl. Wrth gwrs, bydd cynnydd arloesol Llywodraeth Cymru ym maes digartrefedd hefyd yn effeithio ar ein hymdrechion, ac rwy’n mawr obeithio y bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu a’i hyrwyddo ymhellach gan Brif Weinidog newydd Cymru a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a benodwyd ganddo’n ddiweddar.

Mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i wneud beth allwn ni i ddileu sgandal digartrefedd yn ein dyddiau ni a’r holl niwed mae’n ei achosi i’r rhai sy’n dioddef yn ei sgîl. Mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn parhau’n ymroddedig i wneud ein rhan er mwyn cyflawni hynny.

Y Cynghorydd Peter Richards

Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Iechyd