Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Arweiniad i Ffïoedd ar gyfer Ceisiadau Llawn i'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (CCS)

Cyfrifiannell Ffi CCS

ha
Rhowch rhif degol dilys
 
Noder, mae’r ffi wedi’I gyfrifo mewn cynyddiadau o 0.1 hectar yn unoi â Thabl 1;
neu dabl 2, ar gyfer ceisiadau a wneir gan gynghorau tref a chymuned.

Mae'r ffïoedd hyn yn berthnasol i geisiadau a wneir o 7 Ionawr 2019 ymlaen.

Mae'r ddogfen hon yn seiliedig ar y canlynol: ‘Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, Atodlen 3, Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffïoedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018’.

TCaiff y ffi ei thalu pan gaiff y cais ei gyflwyno. Os nad ydych yn siŵr a yw'r ffi'n berthnasol, ffoniwch eich Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy lleol ar (01639) 686850 neu e-bostiwch: SAB-HDC@npt.gov.uk

Tabl 1

Yr holl geisiadau
Ffi sefydlog Ffi ar gyfer y 0.5ha cyntaf Ffi o 0.5ha hyd at ac yn cynnwys 1ha Ffi o 1ha hyd at ac yn cynnwys 5ha Ffi uwchben 5ha
£350 ar gyfer pob cais £70 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar, ar gyfer y 0.5 hectar cyntaf; £50 for each 0.1 hectare or fraction of 0.1 of a hectare, from 0.5 hectare up to and including 1.0 hectare £20 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar, o 1.0 hectar hyd at ac yn cynnwys 5.0 hectar; a £10 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar ychwanegol.

Cyfrifir y swm ychwanegol hyd at £7,500 drwy gyfeirio at faint yr ardal adeiladu

Diffiniad

Diffinnir "ardal adeiladu" fel a ganlyn:

  1. yr ardal o dir a nodir ar gynllun sy'n cyd-fynd â chais am ganiatâd cynllunio, neu
  2. os nad yw cais am ganiatâd cynllunio wedi cael ei gyflwyno, yr ardal o dir y mae gwaith adeiladu wedi dechrau arni neu y disgwylir iddo ddechrau arni

Tabl 2

Ceisiadau gan Gynghorau Tref a Chymuned
Ffi sefydlog Ffi ar gyfer y 0.5ha cyntaf Ffi o 0.5ha hyd at ac yn cynnwys 1ha Ffi o 1ha hyd at ac yn cynnwys 5ha Ffi uwchben 5ha
£175 ar gyfer pob cais £35 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar, ar gyfer y 0.5 hectar cyntaf; £25 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar, o 0.5 hectar hyd at ac yn cynnwys 1.0 hectar; £10 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar, o 1.0 hectar hyd at ac yn cynnwys 5.0 hectar; a £5 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar ychwanegol.

Cyfrifir y swm ychwanegol hyd at £7,500 drwy gyfeirio at faint yr ardal adeiladu

Diffiniad

Diffinnir "ardal adeiladu" fel a ganlyn:

  1. yr ardal o dir a nodir ar gynllun sy'n cyd-fynd â chais am ganiatâd cynllunio, neu
  2. os nad yw cais am ganiatâd cynllunio wedi cael ei gyflwyno, yr ardal o dir y mae gwaith adeiladu wedi dechrau arni neu y disgwylir iddo ddechrau arni

Tabl 3

Cynigion lluosog ar gyfer yr un safle

Y cynnig sy'n denu'r ffi fwyaf yn unol â Thabl 1

Codir tâl ar bob cynnig ychwanegol yn unol â Thabl 2

Y ffi ar gyfer arolygiad yw £168 (fesul arolygiad fel y cytunwyd arni gyda'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy)

Gellir codi tâl am gais sy'n gysylltiedig â chais blaenorol

  • a gyflwynwyd o fewn 12 mis o'r dyddiad y cafodd y cais blaenorol ei gymeradwyo; ac
  • sy'n gysylltiedig yn gyfan gwbl neu'n bennaf â'r system ddraenio a oedd yn destun y cais blaenorol, gan gynnwys cynigion adeiladu ac amodau cymeradwyaeth y cais blaenorol.

Codir ffi am gyflwyno cais yn unol â Thabl 2

'Efallai na fydd corff cymeradwyo'n codi tâl lle bydd cais o dan baragraff (2) yn gysylltiedig ag amod cymeradwyaeth y cais blaenorol yn unig, heblaw am amod o dan baragraff 11(2)(a) Atodlen 3.'

Mae Paragraff 11(2)(a) Atodlen 3 yn datgan:

Gall cymeradwyaeth a roddir o dan is-baragraff (1)(a) ddibynnu ar amodau; yn enwedig, gall amod —

  1. fod yn gysylltiedig ag adeiladu system ddraenio (a all gynnwys addasu'r cynnig ar gyfer adeiladu),
  2. sicrhau na fydd y gymeradwyaeth yn berthnasol nes i'r ymgeisydd ddarparu bond diffyg perfformiad yn unol â pharagraff 12,
  3. bod yn gysylltiedig ag arolygiad, neu
  4. ofyn am dalu ffïoedd y gellir eu codi o dan baragraff 13 drwy gyfeirio at waith a wnaed mewn perthynas â chymeradwyaeth

Arolygiad fel amod cymeradwyaeth

Lle rhoddir cymeradwyaeth sy'n dibynnu ar amod sy'n gofyn am un arolygiad neu fwy o'r gwaith sydd i'w gynnal, codir tâl o £168 yr arolygiad. Cytunir ar nifer yr arolygiadau y mae eu hangen â'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, cyn i unrhyw ganiatâd gael ei roi.