Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Rhaglen Gyfalaf y cyngor

Mae’r cyngor yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd buddsoddi cyfalaf fel modd i adfywio ein cymunedau a darparu adeiladau a seilwaith modern, diogel. Mae buddsoddi cyfalaf nid yn unig yn arwain at well cyfleusterau a gwasanaethau, ond hefyd yn creu swyddi a manteision economaidd i bobl leol.

Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf 2022/23 yw rhyw £70m.

Oble mae’r arian yn dod?

O gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, o dderbyniadau cyfalaf a benthyca darbodus: £45m.

O ffynonellau allanol eraill: £25m - dyma'r arian y mae'r cyngor wedi gwneud cais llwyddiannus amdano, er gwaethaf cystadlaethau gan sefydliadau eraill. Dim ond at ddibenion penodol y gellir defnyddio'r cyllid hwn.

Mae'n gyllid, er enghraifft, i'n helpu i wireddu ein dyheadau adfywio ar draws y fwrdeistref sirol ac arian ar gyfer prosiectau gwella yn ein cymunedau na fyddent fel arall byth yn digwydd.

Enghraifft o'r math hwn o gyllid yw'r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif lle mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 65% o gost unrhyw fuddsoddiad gyda'r 35% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y Cyngor.

Ble mae’r arian yn mynd?

Mae’r arian yn cael ei ddyrannu i amrywiaeth o brosiectau buddsoddi, gan gynnwys cynnal adeiladau, priffyrdd a gwelliannau i gymdogaethau megis cynnal a chadw pontydd a strwythurau eraill a chyllid i wella’n ffyrdd, a Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl i alluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’r cyngor yn falch o’i lwyddiant hanesyddol i ddenu arian cyfalaf a chyflawni prosiectau o ansawdd uchel yn brydlon ac o fewn y gyllideb, a bydd yn parhau i wneud hynny i’r dyfodol.

Gallwch ddarllen mwy am y Rhaglen Gyfalaf 2022-23.

Adroddiad Blaenorol

  • Rhaglen Gyfalaf y cyngor 2021 / 2022 To 2023 / 2024 (PDF 2.60 MB)

    m.Id: 27906
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Rhaglen Gyfalaf y cyngor 2021 / 2022 To 2023 / 2024
    mSize: 2.60 MB
    mType: pdf
    m.Url: /media/15411/capital-strategy-and-capital-programme-2020-21-to-2022-23.pdf

  • Rhaglen Gyfalaf y cyngor 2020 - 23 (PDF 258 KB)

    m.Id: 22472
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Rhaglen Gyfalaf y cyngor 2020 - 23
    mSize: 258 KB
    mType: pdf
    m.Url: /media/13140/capital_strategy_and_capital_programme_202021_to_202223.pdf

  • Rhaglen Gyfalaf y cyngor 2019 - 22 (PDF 1,019 KB)

    m.Id: 18391
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Rhaglen Gyfalaf y cyngor 2019 - 22
    mSize: 1,019 KB
    mType: pdf
    m.Url: /media/10906/capital_programme_report_2019_2022wel.pdf

  • Rhaglen Gyfalaf y cyngor 2018 - 21 (PDF 685 KB)

    m.Id: 18390
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Rhaglen Gyfalaf y cyngor 2018 - 21
    mSize: 685 KB
    mType: pdf
    m.Url: /media/10905/capital_programme_report_2018_2021wel.pdf

Lawrlwytho...
Packaging:  
Complete