Cyflogadwyedd CNPT
Ydych chi eisiau mynd ar gyrsiau hyfforddiant i ddysgu sgiliau newydd neu wella'r sgiliau sydd gennych?
Ydych chi mewn cyflogaeth ond yn gweithio rhan amser neu ar gyflog isel ac am wella'ch sefyllfa?
Ydych chi'n ddi-waith ac yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith?
Os ydych chi wedi ateb YDW i unrhyw un o'r cwestiynau uchod yna efallai y gallwn eich helpu.
Mae Cyflogadwyedd CNPT yma i'ch helpu gydag unrhyw faterion y gall fod angen help arnoch ar eu cyfer, megis:
- Lunio C.V.
- Hyfforddiant
- Technegau cyfweliad
- Magu hyder
- Chwilio am swyddi ar-lein a llenwi ffurflenni cais
- Cyflogadwyedd
- Cyngor ar fudd-daliadau
Costau gofal plant: os oes angen i chi fynd ar gwrs hyfforddiant, i gyfweliad neu ar leoliad ac mae angen cymorth arnoch i dalu costau gofal plant;
Costau Teithio: gallwn helpu gyda chostau teithio er mwyn i chi fynd ar gyrsiau hyfforddiant, i gyfweliadau neu ar leoliadau;
Costau dillad: er mwyn gwneud i chi deimlo'n ddigon trwsiadus a hyderus i fynd i gyfweliadau, lleoliadau ac i ddechrau swydd, gallwn helpu gyda chostau prynu rhywbeth taclus i'w wisgo;
Cyfarpar Amddiffyn Personol: os oes angen eitemau megis esgidiau diogelwch neu ddillad dwrglos arnoch i fynd ar gwrs neu leoliad, gallwn dalu am y rhain.
Gallwn drefnu cyrsiau hyfforddiant i chi ar nifer o bynciau amrywiol, gan gynnwys rhai o'r canlynol:
- Trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogeledd (SIA)
- Cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu
- PTS (Diogelwch Trac Personol) ar gyfer rheilffyrdd
- Peiriannau ac offer bach
- Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- Hyfforddiant LGV â thrwydded
- Diogelu plant a phobl ifanc
- Cymorth Cyntaf Pediatrig
- Diogelwch bwyd
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym?
Cefnogaeth wyneb yn wyneb, gyfeillgar i'ch helpu i gyrraedd eich nodau cyflogaeth.
Rydym yn dîm o staff cyfeillgar a phrofiadol, sy'n ymroddedig i'ch helpu chi i wella eich cyfleoedd cyflogaeth. Mae gennym gysylltiadau helaeth â chyflogwyr lleol yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac rydym yn ymroddedig i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen gennym er mwyn i chi gael cyflogaeth addas ac/neu wella eich rhagolygon. Nid yw'r gwasanaeth hwn yn hanfodol ond mae croeso i chi ddod i'n gweld ni er mwyn manteisio ar yr holl gyfleoedd y gallwn eu cynnig i chi.
Cymerwch gip ar ein fideos o'n hastudiaethau achos yma.
Ydych chi'n gymwys i dderbyn cefnogaeth?
Cysylltwch â ni i ddarganfod sut gallwn eich helpu.
Os ydych chi'n byw yn ardal Castell-nedd Port Talbot, yn chwilio am gymorth gydag unrhyw un o'r uchod ac eisiau derbyn mwy o wybodaeth neu os ydych chi'n meddwl y gallwn eich helpu, cysylltwch â'r tîm