Fydd yna Ddêl neu Beidio? Mae’n rhaid cynllunio ar gyfer Brexit beth bynnag yw’r ateb

Mae bron tair blynedd wedi mynd heibio ers y refferendwm ar yr UE ym mis Mehefin 2016, ac eto, er mai ychydig ddyddiau’n unig sydd cyn bod y Deyrnas Unedig i fod i gyflawni “Brexit”, ymddengys ein bod ni’n dal mewn cymaint o ddryswch ag erioed ynghylch sut mae hynny’n mynd i ddigwydd.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae’r Cyngor wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer yr amrywiaeth o ganlyniadau posibl sy’n dal ar y bwrdd. Bydd gadael yr UE nid yn unig yn cael effaith ar y gwasanaethau niferus rydym ni’n eu darparu i’r cyhoedd, ond hefyd ar drigolion a busnesau lleol. Mae’n bosib na fydd rhai o’r cynlluniau hyn byth yn gweld golau ddydd, ond mae’n gwbl briodol ein bod ni’n cynnal asesiadau gofalus ym mhob maes. Fi sydd wedi bod yn gyfrifol am gydlynu’r ymdrechion hynny, gan gymryd i ystyriaeth y materion tymor byr (gan gynnwys chwalfa ymadael heb ddêl) a hefyd y rhai sy’n codi o ran y tymor canolig a hwy.

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn cyflogi tua 30 aelod o staff rydym ni’n gwybod eu bod yn ddinasyddion yr “UE”, tua 0.1% o’n gweithlu. Rydym hefyd yn ymwybodol y gallai fod llawer mwy mewn sefyllfa debyg ymhlith y rhai sy’n cael eu cyflogi gan gontractwyr a phartneriaid sy’n darparu gwasanaethau ar ein rhan. Rydym yn sicrhau bod gefnogaeth briodol yn cael ei rhoi i’r cyflogeion hynny i’w galluogi i wneud cais am Gynllun y Swyddfa Gartref ar gyfer Preswylwyr Sefydlog o’r UE, os dymunant. Mae’r Cyngor hefyd yn ystyried pa gymorth gallwn ni ei roi ar ffurf gwasanaeth cymorth digidol i drigolion eraill fydd yn gorfod dilyn yr un llwybr.

Yn yr un modd, mae’n rhaid i’r economi leol sydd gennym, a’i sylfaen weithgynhyrchu fawr, ddelio gydag ansicrwydd ein perthynas gyda’r UE yn y dyfodol o ran mynediad i farchnadoedd a symudiadau pobl. Mae tystiolaeth bod nifer o gwmnïau yn y Sir yn gohirio penderfyniadau buddsoddi o ganlyniad i’r dryswch sy’n parhau, ac mae Tîm Cymorth Busnes y Cyngor mewn cysylltiad rhagweithiol â nifer o’r rhai sy’n wynebu anawsterau.

Wrth gwrs mae Castell-nedd Port Talbot wedi elwa’n fawr o gyllid yr UE, sydd wedi ariannu sawl rhaglen adfywio a luniwyd i gynyddu ffyniant a chreu twf economaidd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Er bod Trysorfa’r Deyrnas Unedig wedi cytuno i danysgrifennu’r holl wariant yn ystod oes prosiectau o’r fath hyd at ddiwedd 2020, nid oes fawr ddim eglurder o hyd ynghylch natur unrhyw raglen ariannu olynol. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi Cronfa Ffyniant a Rennir, ond nid yw wedi egluro unrhyw fanylion allweddol ynghylch sut bydd hynny’n gweithredu na sut caiff yr arian ei ddosbarthu. Mae risg amlwg y gallai hynny olygu llai o arian ar gyfer Castell-nedd Port Talbot a llai o allu i gyflawni ein hymrwymiadau i foderneiddio ac arallgyfeirio’r economi leol.

Mae llawer o faterion eraill hefyd wedi derbyn sylw fel rhan o’n gwaith, gan gynnwys cynllunio brys, sicrwydd cyfreithiol (mae nifer o’n gwasanaethau wedi’u seilio ar gyfreithiau presennol yr UE, nad oes cynlluniau ar y gweill i gynnig deddfwriaeth i’w disodli ar hyn o bryd), canlyniadau’r dirywiad a ragwelir yn y sefyllfa economaidd genedlaethol wedi Brexit (mwy o chwyddiant / costau a phenderfyniadau ynghylch trethiant a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus) ac os ceir Brexit heb ddêl, unrhyw gyhoeddiadau a wneir fel rhan o’r “Gyllideb Argyfwng” y mae’r Canghellor wedi sôn amdani.

Yn olaf, ond nid yn lleiaf o bell ffordd, ar adeg ysgrifennu mae cyfle o hyd y gallai fod un etholiad pwysig neu fwy yn ystod y misoedd nesaf – p’un ai Etholiadau newydd i Senedd Ewrop, Etholiad Cyffredinol, neu 2il refferendwm ar yr UE. Y Cyngor sy’n gyfrifol am weinyddu’r rhain i gyd yng Nghastell-nedd Port Talbot ac mae cynlluniau bellach yn eu lle i ddelio gydag unrhyw un o’r rhain os bydd angen.

Mae Brexit yn sicr wedi bod yn broses annelwig iawn, ac wedi defnyddio llawer iawn o amser, egni ac adnoddau ar bob lefel o fewn y Llywodraeth. Does dim atebion syml nac uniongyrchol i unrhyw gwestiynau sy’n codi yn ei sgîl, ond fel Cyngor, rydym ni’n cadw golwg fanwl ar arwyddocâd y cyfan i Gastell-nedd Port Talbot ac yn paratoi ar gyfer hynny orau gallwn ni.

Y Cynghorydd Anthony Taylor
Dirprwy Arweinydd