Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Qwybodaeth Pobl Ifanc

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Cytundeb rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sy'n amlinellu'r hawliau hyn. Lluniwyd y Confensiwn ar y sail bod angen rhoi ystyriaeth benodol i hawliau plant oherwydd y gofal arbennig a'r prosesau diogelu sydd eu hangen yn aml ar blant a phobl ifanc.

Rhestr o hawl sydd gan bob plentyn a pherson ifanc ledled y byd yw'r Confensiwn. Mae gan blant a phobl ifanc sy'n 18 oed ac yn iau yr hawl i fod yn ddiogel, chwarae, cael addysg, bod yn iach a bod yn hapus.

Mae pedair erthygl allweddol yn sail i'r hawliau a nodir yn y Confensiwn:

  • yr hawl i beidio â gorfod wynebu gwahaniaethu yn eich erbyn (erthygl 2)
  • ymrwymiad i les pennaf y plentyn (erthygl 3)
  • yr hawl i fyw, goroesi a datblygu (erthygl 6)
  • yr hawl i gael eich clywed (erthygl 12)

Yn 2004, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Confensiwn yn ffurfiol fel sail y broses o lunio polisi sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth sy'n gyfeillgar i blant am hawliau plant

Dewch i ddysgu mwy am yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn cynnig ystod o wasanaethau cefnogi ar gyfer teuluoedd, plant a phobl ifanc sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cymerwch gip ar ein tudalen Cadw'n Ddiogel i gael cyngor ar fwlio, diogelwch ar y rhyngrwyd, lles plant a mwy... yn ogystal â'n tudalen Iechyd a Lles.

Chwilio am Gymorth Ieuenctid