Mathau o Ofal Plant
Mae pob plentyn a theulu’n wahanol – ond yn sicr mae dewis gofal plant ar gael i bawb!
P’un a ydych chi’n chwilio am ofal plant mewn grŵp, neu eisiau gofal un-i-un ar gyfer eich plentyn, darllenwch ein taflen isod i gael gwybod mwy am yr opsiynau sydd ar gael i chi.
Manteision Gofal Plant
Er y gall dewis gofal plant godi ofn ar lawer o rieni, mae tystiolaeth glir y bydd plant yn elwa yn y tymor hir.
Mae gofal plant yn cynnig manteision cymdeithasol, emosiynol ac addysgol hirdymor i blant a’u rhieni/gofalwyr.
Isod nodir rhai o fanteision defnyddio gofal plant.