Beyond the Blue
Mae Gwasanaeth Beyond the Blue Barnardo’s yn darparu amrywiaeth o ymyriadau therapiwtig a chwnsela i blant a phobl ifanc 5-25 oed, yn ogystal â’u rhieni, a hynny fel unigolion, grwpiau a theuluoedd.
Bydd y gwasanaeth hefyd yn darparu cefnogaeth benodol yn wyneb colled, er enghraifft profedigaeth, rhieni’n ymwahanu, neu garchariad rhiant.
Nod y gwasanaeth fydd gwella iechyd emosiynol, llesiant a gwydnwch unigolion a’u galluogi i ymdopi’n well â’r straen a’r anawsterau y gallent eu hwynebu.
Bydd y gwasanaeth yn gweithio ochr yn ochr â phecynnau eraill sy’n rhan o Teuluoedd yn Gyntaf.
www.barnardos.org.uk/neath-port-talbot-beyond-the-blue