Ein gweledigaeth ar gyfer Castell-nedd Port Talbot
Rydym am i Gastell-nedd Port Talbot fod yn lle bywiog ac iach lle mae gan bobl gyfle cyfartal i ddatblygu yn eu bywydau - rhywle y mae pobl am fyw, dysgu a buddsoddi ynddo ac ymweld ag ef am genedlaethau i ddod.
Rydym am i wasanaethau cyhoeddus lleol, sy'n cynnwys y Trydydd Sector, fod yn effeithiol ac yn werth da am arian, yn hawdd i bobl eu defnyddio a chynnig cyflogaeth o safon lle caiff pobl eu gwerthfawrogi am y gwaith maent yn ei wneud. Gyda dinasyddion, byddwn yn adeiladu ar ein cymunedau cryf a chydlynol lle caiff hawliau pawb eu parchu a'u diogelu.
Rydym am i'n gwasanaethau cyhoeddus ganolbwyntio ar alluogi pobl a chymunedau i fod yn wydn a bydd yn arferol i ddinasyddion brofi gwasanaethau llyfn, wedi'u personoli ac o safon. Bydd cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn creu'r amodau cywir ar gyfer buddsoddi a fydd yn galluogi i'r fwrdeistref sirol ddenu a chynnal cyflogaeth gynaliadwy o safon i bobl leol.
Bydd ein cymunedau wedi'u cysylltu'n dda trwy isadeiledd digidol a chludiant o'r radd flaenaf a chaiff ein hamgylchedd naturiol ei warchod a hefyd ei ddatblygu i gefnogi byw iach a buddsoddi.
Byddwn wedi cyflawni ein gweledigaeth os bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd; os bydd gan yr holl bobl ifanc ac oedolion y sgiliau a'r gwydnwch i fod yn iach ac yn ffyniannus; os bydd pobl yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel; os bydd ein holl gymunedau'n ffynnu ac yn cefnogi'r bobl sy'n byw ynddynt ac yn fannau lle gall pobl dderbyn cymorth gan gymdogion neu rwydweithiau cymdeithasol sydd wedi'u datblygu'n dda.