Coronafeirws (Covid-19) y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf Mwy… × Y diweddaraf am Godre’r Graig Adleoli Ysgol Gynradd Godre’r Graig: Diweddaru’r Sefyllfa (28 Awst 2019) - Mae’n debygol iawn y bydd cynllun Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu dosbarthiadau dros dro i’w defnyddio gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Godre’r Graig yn eu hardal benodedig eu hunain o Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn cael ei gwblhau erbyn wythnos gyntaf mis Medi. Diweddariad ynghylch Ysgol Gynradd Godre’r Graig (22 Awst 2019) - Mae cynllun Cyngor Castell-nedd Port Talbot i adleoli disgyblion Ysgol Gynradd Godre’r Graig i ddosbarthiadau dros-dro yn eu hardal benodedig eu hunain yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn debygol o fod yn barod erbyn wythnos gyntaf mis Medi. Diweddariad ar gais cynllunio 26 Gorffennaf 2019. Gallwch weld y cais cynllunio yma Gwybodaeth ar gyfer Preswylwyr Lleol (12 Gorfennaf 2019) Bydd preswylwyr sy’n byw’n agos at Ysgol Gynradd Godre’r Graig yn derbyn llythyron y prynhawn yma oddi wrth y cyngor, fydd yn ei gwneud hi’n fwy eglur pam y gwnaed y penderfyniad i gau’r ysgol, ac yn amlinellu pa gamau a gymerir nesaf. Mwy... Diweddariad ynghylch Ysgol Gynradd Godre’r Graig (12 Gorffennaf 2019)Roedd y Cyngor yn gweithredu ddoe mewn ymateb i wybodaeth gychwynnol a dderbyniwyd gan ein hymgynghorwyr geodechnegol arbenigol. Ein prif ffocws yw’r perygl sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r domen wastraff o chwarel a leolir uwchlaw iard chwarae’r ysgol. Mwy... Ysgol am resymau diogelwch ar ôl canfod risg daearegol (11 Gorffennaf 2019)Bu’n rhaid cau Ysgol Gynradd Godre’r Graig ar ôl i arbenigwyr daearegol ganfod fod darpar berygl o dirlithriad i iard chwarae’r ysgol.Darganfu Earth Science Partnership (ESP), yr arbenigwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, fod risg lefel ganolig o dip gwastraff o chwarel ger yr ysgol, ar ôl i’r Cyngor ofyn iddynt ymestyn eu gwaith ymchwilio i’r perygl o dirlithriadau sy’n digwydd yn ardal gyfagos Pant-teg, Ystalyfera. Mwy...