Banksy
Ym mis Rhagfyr 2018, rai dyddiau cyn y Nadolig, deffrôdd un aelwyd yn Nhai-bach i ganfod bod eu garej ddi-nod wedi cael ei thrawsnewid â murlun, ‘rhodd’ gan yr artist stryd di-enw Banksy, sy’n enwog ar draws y byd.
Aeth y gair ar led yn gyflym, gan ddenu niferoedd anferth o ymwelwyr oedd am weld y gwaith celf, yn ogystal â sylw’r cyfryngau byd-eang.
Prynwyd y gwaith celf, sy’n dwyn y teitl ‘Cyfarchion y Tymor’, ym mis Ionawr 2019 gan brynwr preifat, a gytunodd i’w gadw yn y dref am gyfnod o dair blynedd. Yn dilyn trafodaethau rhwng y prynwr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Grŵp Pobl, symudwyd y gwaith celf i Dŷ’r Orsaf, adeilad newydd yn agos at orsaf reilffordd Parcffordd Port Talbot.
Mae’r gwaith celf i’w weld o’r tu allan i’r adeilad rhwng 8am ac 8pm (ddydd Llun i ddydd Sul), pan fydd y caeadau diogelwch ar agor, ond ni ellir mynd i mewn i’r adeilad ei hun ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, mae trafodaethau ar waith gydag asiantaethau partner i ddatblygu’r trefniadau arddangos ymhellach.
Mae Tŷ'r Orsaf ar safle hen Orsaf Heddlu Port Talbot, ar Heol yr Orsaf (Llywio Lloeren: SA13 1UP) ac mae’n hawdd ei gyrraedd mewn bws a thacsi o Ganolbwynt Trafnidiaeth Port Talbot gerllaw, ac ar drên o Orsaf Parcffordd Port Talbot.
-
Gwaith Celf Banksy - diweddariad pellach 19.11.21
19 Tachwedd 2021
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Latham:
-
Gwaith celf Banksy ‘Season’s Greetings’ – diweddariad
18 Tachwedd 2021
Mae’r trefniant dros-dro rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot a’r gwerthwr celf John Brandler i roi cartref i’w waith celf gan Banksy, Season’s Greetings, mewn uned siop wag ynghanol tref Port Talbot yn dod i ben.