Enwi a Rhifo Strydoedd
Croeso i Wasanaeth Enwi a Rhifo Strydoedd y Cyngor. Mae'r Cyngor yn gyfrifol am enwi pob ffordd ac enwi/rhifo pob eiddo preswyl ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Adeiladau Newydd
Wrth adeiladu adeilad newydd a chyn bod unrhyw un yn byw ynddo, bydd rhaid i eiddo dderbyn cyfeiriad swyddogol gan yr awdurdod lleol. Yna, caiff cyfeiriadau eu cofrestru gyda'r Post Brenhinol, a fydd yn cyflwyno cod post newydd. Yna, caiff yr wybodaeth hon ei throsglwyddo i adrannau eraill yn y cyngor yn ogystal â chwmnïau cyfleustodau, gwasanaethau argyfwng a'r Gofrestrfa Tir. Bydd y Post Brenhinol hefyd yn anfon yr wybodaeth hon ymlaen at gwmnïau preifat fel siopau'r stryd fawr, banciau a chwmnïau yswiriant ayob.
Os na fydd eich eiddo'n cael ei gofrestru, ni fydd y Post Brenhinol yn ei gydnabod. Bydd hyn yn arwain at anawsterau wrth ddod o hyd i'ch eiddo, ac ar ben hynny, gallai fod yn anodd cofrestru eich cyfeiriad gyda banciau, siopau a sefydliadau credyd ayob.
Math o Gais | Tâl |
---|---|
Enwi/rhifo un plot | £30 |
Enwi/rhifo datblygiad lan i 5 plot | £30 o dal yn ogystal a £25 y plot |
Enwi/rhifo datblygiadau o 6 plot a mwy | £75 o dal yn ogystal a £20 y plot |
Addasu eiddo o/i fflatiau | £30 o dal yn ogystal a £15 y fflat |
Ailrifo datblygiad (ar ôl hysbysiad) | £100 yn ogystal â £15 y plot |
Llythyr cyfreithiwr i gadarnhau cyfeiriad | £30 |
Cais i newid neu ychwanegu enw/rhif | £30 |
Cais i gael gwared ar gyfeiriad o gofnodion | £30 |
Ailenwi stryd ar gais preswylwyr | £30 o dal yn ogystal â chostau cyfreithiol |
Mae costau lluosog yn seiliedig ar faint y datblygiad gorffenedig ac yn amherthnasol i ddyddiad cwblhau eiddo unigol
Nid yw'r taliadau uchod yn destun TAW
Sieciau i'w gwneud yn daladwy i 'Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot/ERS neu (CBSCNPT/ERS)' a rhaid atodi ffurflen gais. Gallwch hefyd dalu i Enwi a Rhifo Strydoedd ar-lein
Os bydd angen mwy o gymorth arnoch, ffoniwch swyddog enwi a rhifo strydoedd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar 01639 686741 neu e-bostiwch snn@npt.gov.uk
Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Iau 8am - 5pm (ac eithrio Gwyliau Banc)