Hepgor gwe-lywio

Y Prosiect

Mae ucheldir y llwyfandir rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yn dirlun sy’n llawn trysorau cudd.

Mae ucheldir y llwyfandir rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yn dirlun sy’n llawn trysorau cudd.

Yn hanesyddol, roedd hwn yn dir agored, yn weundiroedd, yn fawnogydd ac yn ddyffrynnoedd rhychog, serth wedi’u cerfio yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf. Mae pobl wedi defnyddio’r tirlun hwn am filoedd o flynyddoedd ac mae sawl nodwedd a llwybr hanesyddol, pwysig i’w gweld hyd heddiw. Dim ond ar ôl darganfod glo yn yr ardal y gwelwyd y patrwm defnydd tir hwn yn dechrau newid. 

Fe newidiodd cymoedd De Cymru am byth yn sgîl y chwyldro diwydiannol ac mae dileu cyfleoedd cyflogaeth yn sicr wedi achosi cyfnodau anodd i drigolion lleol. Fodd bynnag, meithrinwyd treftadaeth a diwylliant unigryw yn y cymunedau bywiog ym mhennau uchaf Cwm Afan a Chwm Rhondda Fawr.

Heddiw, rhai o nodweddion amlycaf y nenlinell yw planhigfeydd coedwigaeth masnachol a ffermydd gwynt ynni adnewyddadwy, ond mae’r dirwedd hon, y cyfeirid ati ar un adeg fel ‘Alpau Morgannwg’, hefyd yn gartref i frithwaith o gynefinoedd ucheldir sy’n cefnogi nifer o rywogaethau a warchodir neu rywogaethau anghyffredin, fel llygoden bengron y dŵr a’r wiber, ac yn gadarnle i boblogaeth fridio o droellwyr mawr o bwys cenedlaethol.

Ond elfen bwysicaf a mwyaf arwyddocaol y dirwedd hon, o bosib, yw’r adnoddau mawn a’u potensial o ran storio carbon. Mae’r ucheldir yn gartref i ddarnau helaeth o orgorsydd cydgysylltiedig, y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi dirywio dros amser yn sgîl gweithgareddau dynol, ond sydd, serch hynny, â’r potensial i gael eu hadfer i greu systemau sy’n gweithio, yn cloi carbon i mewn, ac yn cyfrannu at ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu.

Trwy adfer cynefinoedd a rheoli adnoddau’r Mawndiroedd Coll yn well, ein nod yw adfer y tirlun rhyfeddol hwn, sicrhau effaith gadarnhaol o ran y newid yn yr hinsawdd, a gwella bioamrywiaeth yr ardal.

Trwy ddarparu gwell mynediad, dehongli, arwyddion a gwaith hyrwyddo, byddwn yn denu ac yn annog pobl i archwilio ardal y Mawndiroedd Coll. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl fwynhau’r tirlun a chael budd ohono. Byddwn yn cysylltu pobl leol ac ymwelwyr â threftadaeth gyfoethog yr ardal.

Trwy gynnig addysg, hyfforddiant, gweithgareddau a digwyddiadau i bawb, byddwn yn grymuso cymunedau’r prosiect ac yn meithrin ynddynt ymdeimlad cryfach o stiwardiaeth a fydd, yn y pen draw, yn arwain at ailddarganfod ac adfywio’r Mawndiroedd Coll.