Hepgor gwe-lywio

STORI’R MAWNDIROEDD COLL

Dymuniad y prosiect yw dathlu cysylltiad pobl â thirluniau arbennig Cwm Afan Uchaf a Chwm Rhondda Uchaf trwy “Stori’r Mawndiroedd Coll”

Mae ucheldir y llwyfandir rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yn dirlun sy’n llawn trysorau cudd.

Dymuniad y prosiect yw dathlu cysylltiad pobl â thirluniau arbennig Cwm Afan Uchaf a Chwm Rhondda Uchaf trwy “Stori’r Mawndiroedd Coll”. Mae gennym ddiddordeb mawr yn yr hyn y gallech chi ei ddweud wrthyn ni am y tirlun a’r hanes lleol.

Rydyn ni am gofnodi hanes, traddodiadau, atgofion am yr ardal a’r defnydd o dir yn y gorffennol a’u rhannu â thrigolion lleol ac ymwelwyr. Ein cynllun yw adrodd “Stori’r Mawndiroedd Coll” trwy ap digidol, trwy ein gwefan a thrwy ddigwyddiadau cymunedol.

Os oes gennych chi hanesion, lluniau, ryseitiau, cerddi, storïau neu unrhyw beth arall y gallech ei rannu â ni byddem yn falch iawn os gallech gymryd rhan. Cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol neu i anfon eich cyfraniadau atom.