Sut y gall Safe and Well CNPT eich helpu
Gall cynllun Safe and Well CNPT eich helpu i gysylltu â'ch gwirfoddolwr lleol, eich grŵp cymunedol neu wasanaeth cymunedol fel y gallwch gael cefnogaeth ar gyfer y canlynol:
- Siopa bwyd
- Casglu meddyginiaeth ar bresgripsiwn
- Gwneud negeseuon dyddiol
- neu drefnu i rywun wirio eich bod yn iawn
Rydym yma i gynnig help i'r rheini nad oes ganddynt unrhyw ffrindiau a theulu i ddibynnu arnynt am gefnogaeth.
Ymateb partneriaeth i bandemig Coronafeirws rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr a chymdeithasau tai yw Safe and Well CNPT i sicrhau bod y rheini y mae angen cymorth ychwanegol arnynt yn gallu ei chael.
*Mae'r gwasanaeth dosbarthu parseli bwyd a ddarparwyd yn flaenorol gan Safe and Well CNPT a Llywodraeth Cymru wedi dod i ben. Rhestrir datrysiadau eraill isod.
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf
Rydym am wneud popeth y gallwn i'ch cadw'n ddiogel ac yn iach. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut i amddiffyn eich hun rhag Coronafeirws ac i gael y newyddion diweddaraf am Gastell-nedd Port Talbot,
Ar-lein: www.npt.gov.uk/coronafeirws
Cyfryngau cymdeithasol: @NeathPortTalbotCBC (Facebook), @CyngorCNPT (Twitter)
Ffôn: Os hoffech siarad â rhywun am gynllun Safe and Well CNPT, ffoniwch ni ar 01639 686868.
Sefydlwyd Cynllun Gwirfoddolwyr 'Safe and Well' CNPT i bobl sy'n gallu rhoi o'u hamser i helpu pobl ddiamddiffyn y mae Coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw
*Sylwer – Mae’r cynllun ar gau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae croeso i chi adael eich manylion drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein a byddwn yn cysylltu â chi os ydym yn penderfynu ailagor y cynllun.