Taliadau Prydiau Ysgol am Ddim yn ystod gwyliau ysgol
Fe fydd Cyngor Nedd a Phort Talbot yn darparu taliad drwy ddrosglwyddiad banc, i’r rheini sydd yn gymwys am Brydiau ysgol am Ddim, ac yn mynychu addysg o fewn Cyngor NaPhT yn ystod pob gwyliau hyd at Haf 2022. Fe fydd swm o £19.50 yn daladwy yr wythnos i’r disgyblion sydd yn gymwys, nid yw hwn yn cynnwys disgyblion oed Meithrin. Fe fydd y swm yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc. Nodwch ni all yr Awdurdod wneud taliadau I gyfrifon swyddfa bost.
Sylwer, bydd taliadau ynysu (£3.90 y dydd) yn parhau hyd a 30th Mehefin 2022 i'r rhai sy'n cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan yr ysgol neu drwy'r gwasanaeth profi, olrhain & diogelu.
Sut i dderbyn taliad
I’r rhieni sydd wedi derbyn taliad am Brydiau ysgol am Ddim yn y gorffennol does dim angen i chi ail ymgeisio. Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer taliadau prydau ysgol am ddim o'r blaen gan gynnwys disgyblion derbyn, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen isod.
Gwnewch gais ar-leinFe fydd angen i chi ddarparu’r canlynol:
- Manylion eich cyfrif banc (rhif cyfrif,cod didoli, enw’r cyfrif)
- Enw eich plentyn/Enw cyfreithlon eich plentyn
- Dyddiad geni eich plenty
Noder ni all daliadau gael eu gwneud i gyfrif arall
Pwylslesir y dylid rhoi eich manylion personol mor gynted a phosib er mwyn rhyddhau taliad.
Dylid fod yn wyliadwrus o unrhyw sgamiau yn ymwneud a thaliadau prydiau ysgol
Ni fydd y cyngor byth yn eich ffonio yn gofyn am wybodaeth banc
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn a phrydiau ysgol am ddim, ffoniwch:
Tim Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd ar 01639 763515 neu e-bost: fsm@npt.gov.uk