Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion Uwchradd
Mae gan bob ysgol uwchradd yng Nghastell-nedd Port Talbot Gwnselydd mewn Ysgolion. Os cewch eich addysgu gartref, ticiwch y blwch 'addysgir gartref'. Gall materion yr hoffech eu trafod gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- eich iechyd meddwl a'ch lles emosiynol
- pwysau teuluol
- perthynas â rhieni a brodyr a chwiorydd
- teimladau o bryder
- gweld eisiau bod yn yr ysgol
- pryderon ynghylch dychwelyd i'r ysgol
- hwyliau isel
- hunanwerth
- teimlo dan straen
- anhawster i rheoli teimladau o ddicter
- digwyddiadau anodd yn y gorffennol
Os hoffech gyfeirio eich hun at y gwasanaeth hwn, llenwch y ffurflen isod.
Os ydych yn teimlo na allwch gadw eich hun yn ddiogel, cysylltwch â'r tîm Argyfwng ar 01639 862752 neu eich meddyg teulu
Os ydych mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â'r Heddlu.
Yn olaf, os ydych yn teimlo nad ydych yn ddiogel yn eich cartref, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01639 686803 neu Child Line ar 0800 1111.