Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwasanaeth Galw'n Ôl Iechyd Meddwl, Lles ac Ymgynghori i Staff Ysgol

Gwasanaeth Cwnsela Staff Ysgol

Fel cydnabyddiaeth o'r pwysau cynyddol ar staff yr ysgol a'r cyswllt sydd wedi'i ddogfennu'n dda rhwng lles staff a lles disgyblion, mae'r Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion yn falch o allu cynnig gwasanaeth cwnsela i staff ysgolion.

Mae'r gwasanaeth yn gallu cynnig hyd at chwe sesiwn.

Gallai pryderon yr hoffech eu trafod gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • teimladau o bryder
  • hwyliau isel
  • straen
  • pryderon am eich iechyd meddwl
  • pryderon teulu / perthynas
  • cefnogaeth wrth ddod o hyd i gydbwysedd
  • cymorth i ddatblygu hunan ofal

Darperir y gwasanaeth hwn trwy Dimau ar hyn o bryd er mwyn cynyddu capasiti. Mae'n rhedeg rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae sesiynau ar ôl ysgol yn gyfyngedig. Os ydych yn gallu cael eich sesiwn yn ystod y diwrnod ysgol rydych yn debygol o dderbyn gwasanaeth yn gynt oherwydd y capasiti uwch yn ystod y diwrnod ysgol.