Mae'r cyngor wedi llunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.
Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon sy'n diwallu anghenion a dyheadau holl ddinasyddion Castell-nedd Port Talbot.
Wrth lunio'r CCS, rydym wedi ystyried data a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau, o ymchwil genedlaethol i arolygon lleol a gwybodaeth am wasanaethau i weithgareddau cynnwys y cyhoedd. Rydym hefyd wedi adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud i ddatblygu'r agenda gydraddoldeb yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Nid diwedd y broses yw cyhoeddi'r CCS, ond y dechrau yn unig! Rydym yn croesawu barn a sylwadau pobl drwy gydol oes y CCS a byddwn yn eu hystyried, ynghyd â'r rhai a dderbynnir drwy weithgareddau ymgysylltu eraill, wrth adolygu'r amcanion ac yn ystod adolygiad ffurfiol y CCS.
Os oes angen copi caled arnoch neu os hoffech dderbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol mewn fformat arall, ffoniwch y Tîm Strategaeth Gorfforaethol ar 01639 763010 neu e-bostiwch corporate.strategy@npt.gov.uk
Lawrlwytho...
Packaging:
Complete