Cymorth a Chyngor Gwybodaeth Llifogydd Sgiwen Mwy… × Isod mae llawer o fanylion cyswllt defnyddiol os bydd angen cymorth a chyngor arnat ti. Maen nhw i gyd yn cynnig cymorth cyfeillgar, defnyddiol a chyfrinachol i blant a phobl ifanc. Childline Mae Childline yma i helpu unrhyw un o dan 19 oed yn y Deyrnas Unedig beth bynnag maen nhw'n ei wynebu. P’un ai rhywbeth bach neu fawr yw e, mae eu cwnselwyr wedi'u hyfforddi i'th helpu. Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol sydd ar gael, am ddim, ar bob adeg o'r dydd neu'r nos. Cei di siarad â ni dros y ffôn, trwy e-bost neu mewn sgwrs 1-1 â chwnselydd. P’un bynnag sy'n teimlo orau i ti. NSPCC 18 oed neu dan hynny? Cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim, beth bynnag sy'n dy boeni, pryd bynnag bydd ei angen. Ffonia 0800 1111 Fel arall, ffonia 0808 800 5000 i drafod dy bryderon gyda Llinell Gymorth Amddiffyn Plant yr NSPCC sydd ar gael 24 awr y dydd. Comisiynydd Plant Cymru Rydyn ni'n gweithio dros bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru sydd o dan 18 oed, neu o dan 25 oed os ydyn nhw wedi bod mewn gofal. Rydyn ni'n cynghori plant, pobl ifanc a'r bobl sy'n gofalu amdanyn nhw os ydyn nhw'n teimlo eu bod nhw’n methu troi at neb arall gyda'u problemau. Rydyn ni'n helpu plant a phobl ifanc i gael gwybodaeth am hawliau plant. Rhif rhadffôn plant a phobl ifanc: 0808 801 1000 www.childcomwales.org.uk Gwasanaethau Cymdeithasol Gwasanaethau Cymdeithasol Ffonia (01639) 6857175.30pm tan 1.30am (dydd Llun i ddydd Gwener)9am tan 1.30am (dydd Sadwrn, dydd Sul a Gŵyl y Banc) Rhif Ffôn Argyfwng y tu allan i oriau: (01639) 895455 E-bost: Ar gyfer ymholiadau cyffredinol Am ymholiadau cyffredinol ffoniwch (01639) 686868 Tros Gynnal Plant Mae Tros Gynnal Plant yn cynnig cymorth annibynnol a chyfrinachol i blant a phobl ifanc a theuluoedd trwy eiriolaeth, cyfranogiad, cwnsela, cyfarfodydd grwpiau teulu a datrys anghydfod. Byddwn ni'n helpu os wyt ti'n cael trafferth cysylltu â gwasanaethau priodol o ran iechyd, addysg a gofal cymdeithasol. Gwasanaeth Eiriolaeth Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Ffonia 01656 669 354. Rhadffôn: 0800 328 7289. E-bost: leo@trosgynnalplant.org.uk Samaritans Mae gennym ni lawer o wybodaeth am bethau sy’n gallu dy helpu trwy gyfnodau anodd. Gallwn ni dy helpu i edrych ar dy opsiynau, deall dy broblemau'n well neu gynnig clust i wrando. www.samaritans.org Ffonia 01792 655999E-bost jo@samaritans.org LGBT Cymru Cael hyd i'r meddyg, deintydd, fferyllfa, clinig iechyd rhywiol, grŵp cymorth/hunan-gymorth agosaf a mwy, gofyn cwestiynau iechyd neu wirio symptomau. Cyngor ac awgrymiadau o ran cadw'n iach. nhsdirect.wales.nhs.uk GIG Cymru Cael hyd i'r meddyg, deintydd, fferyllfa, clinig iechyd rhywiol, grŵp cymorth/hunan-gymorth agosaf a mwy, gofyn cwestiynau iechyd neu wirio symptomau. Cyngor ac awgrymiadau o ran cadw'n iach. nhsdirect.wales.nhs.uk Meic Cymru Llinell gymorth sy'n darparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc www.meiccymru.org Ffonia 080880 23456Testun 84001 Cyngor ar Bopeth Rydyn ni'n darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim i bawb am eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Rydyn ni'n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio camwahaniaethu. Ffonia 03444 77 20 20www.citizensadvice.org.uk Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar. Rydyn ni'n gweithio gyda phobl ifanc 10-17 oed ac mae tri phrif faes i'n gwaith: atal troseddu, troseddwyr, diogelwch cymunedol. Am ymholiadau cyffredinolffoniwch 01639 885050 Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Chwiliwch yma am Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Gwneud Cwyn