Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Clinigau Galw Heibio Cyflogadwyedd

*Oherwydd Covid-19 mae ein staff yn gweithio gartref ar hyn o bryd, felly mae'r holl ddigwyddiadau a'r sesiynau galw heibio wedi'u canslo am y dyfodol rhagweladwy. Cysylltwch â'n tîm i gael gwybodaeth am ein sesiynau cefnogi ar-lein a'n digwyddiadau rhithwir.

Oes angen help a chefnogaeth arnoch i ddod o hyd i swydd, cynyddu oriau neu ymgymryd â chyfle hyfforddiant newydd?

Mae'r tîm Cyflogadwyedd CNPT yn cynnal clinigau gwybodaeth am gyflogadwyedd rheolaidd mewn amrywiaeth o leoliadau.

Mae Cyflogadwyedd CNPT wedi helpu llawer o bobl i fagu hyder, gwella'u sgiliau a dod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy. Yn ogystal â helpu pobl sy'n ddi-waith, mae ein tîm hefyd yn cefnogi unigolion sydd mewn cyflogaeth ran-amser neu ar gontractau dim oriau ac yn awyddus i gynyddu oriau neu symud i gyflogaeth fwy ystyrlon.

Mae'r clinigau hyn yn cynnig y cyfle i chi ddod i gael gwybodaeth am y gwahanol fath o gefnogaeth y gall Cyflogadwyedd CNPT ei chynnig. Beth am ddod i un o'r clinigau a chanfod sut gallwn eich helpu?