Cynnig Gofal Plant CNPT
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant 3-4 oed, hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae’r cynnig ar gael i blant o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed, pryd byddan nhw’n cael cynnig lle amser llawn mewn addysg.
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn mynd ar-lein. Darganfod Mwy.
Ar gyfer plant a anwyd hyd at ac yn cynnwys 31/08/2019, gwnewch gais trwy ein gwefan.
Gwneud cais ymaBydd angen i unrhyw un sydd â dyddiad geni o 01/09/19 neu’n hwyrach wneud cais drwy blatfform digidol newydd Llywodraeth Cymru (mwy o wybodaeth i ddilyn)
Chwilio am ddarparwr Cynnig Gofal Plant