Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwybodaeth i Rieni

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant 3-4 oed, hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae’r cynnig ar gael i blant o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed, pryd byddan nhw’n cael cynnig lle amser llawn mewn addysg.

Mae’r Cynnig yn gyfuniad o’r ddarpariaeth addysg gynnar sydd ar gael i bob plentyn 3 a 4 oed, a gofal plant ychwanegol wedi’i ariannu.

Mae pob cais am y Cynnig Gofal Plant yn cael ei brosesu gan dîm Gofal Plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Pwy sy'n gymwys?

I fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig, rhaid i riant fodloni’r canlynol:

  • bod â phlentyn cymwys o fewn yr ystod oedran
  • bodloni'r diffiniad o riant sy'n gweithio neu riant mewn addysg neu hyfforddiant
  • Yn byw yn Nghastell-nedd Port Talbot

Os ydych chi’n hunangyflogedig neu ar gontract oriau sero, mae angen i chi fedru profi hynny trwy ddarparu’r dogfennau perthnasol.

Sut mae’r cynnig yn gweithio 

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar a ariennir gan y llywodraeth i blant rhwng 3 a 4 oed, 48 wythnos y flwyddyn, i rieni cymwys, a bydd hefyd yn berthnasol yn ystod gwyliau'r ysgol.​

Gall plentyn sy’n troi’n 3 oed rhwng: Yn gallu gwneud cais o: Gael mynediad i’r Cynnig o:
4 Ionawr 2022 – 24 Ebrill 2022 31 Ionawr 2022 Tymor yr haf  (25 Ebrill 2022)
25 Ebrill 2022 – 31 Awst 2022 12 Mehefin 2022 Tymor yr hydref (5 Medi 2022)

Sylwer y bydd y cynnig yn cychwyn o ddiwrnod cyntaf y tymor ysgol a bennwyd gan yr Awdurdod Lleol.

Sut mae gwneud cais

I wneud cais mae angen i chi gwblhau ffurflen gais ar-lein.

Peidiwch â gwneud cais am y cynnig fwy na 12 wythnos cyn dyddiad cychwyn eich plentyn, os gwelwch yn dda. Bydd unrhyw geisiadau a ddaw i law cyn y 12 wythnos yn cael eu gwrthod a bydd rhaid cyflwyno cais newydd.

Cyn cyflwyno cais

Cyn cychwyn ar eich cais, dilynwch y camau isod:

Cam 1

Gwiriwch gyda’r darparw(y)r gofal plant rydych chi wedi eu dewis i sicrhau eu bod nhw wedi cofrestru i fod yn ddarparwr i’r Cynnig Gofal Plant yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cam 2

Gan fod dim modd cadw’r ffurflen gofrestru yma, gofalwch fod yr wybodaeth ganlynol wrth law cyn i chi gychwyn a bod yr holl ddogfennau wedi’u cadw ar ffurflen PDF neu ffeiliau delweddau cyn dechrau’r cais.

  • Sgan/ffotograff o dystysgrif geni eich plentyn
  • Sganiau/ffotograffau o slipiau cyflog tri mis diwethaf y rhiant
  • Sgan/ffotograff o brawf preswyliaeth (e.e. datganiad diweddaraf treth y cyngor, datganiad banc, bil cyfleustodau, dogfen(nau) yswiriant)
  • Oriau a diwrnodau’r darparwyr gofal plant y cytunwyd arnynt
  • Manylion cyswllt cyflogwr, gan gynnwys: Cyfeiriad, rhif ffôn ac e-bost
  • Sgan/ffotograff o unrhyw lythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu lythyr gan y cyflogwr presennol a fyddai’n golygu bod rhieni’n gymwys i dderbyn y Cynnig Gofal Plant os nad ydynt mewn gwaith ar hyn o bryd.

Cam 3

Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein isod.

Gwirio Cymhwyster a Gwneud Cais

Gwiriwch eich bod chi’n gymwys, a chyflwyno’r cais

Mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod i ni ar unwaith os bydd yr oriau gofal plant yn newid, os byddwch chi’n newid i ddarparwr arall, neu os bydd eich cyfeiriad neu eich amgylchiadau gwaith yn newid. Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni, gallai’r arian ar gyfer y Cynnig gael ei golli.

Mae’n bosib y byddwch yn derbyn e-bost oddi wrthym ni, o bryd i’w gilydd, i gadarnhau bod eich amgylchiadau heb newid.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltu â ni

Ffoniwch Dîm Cynnig Gofal Plant Castell-nedd Port Talbot ar 01639 873018 neu e-bostiwch childcareoffer@npt.gov.uk