Cynllun Gwirfoddoli CNPT
Mae'r broses recriwtio i'n cynllun gwirfoddoli bellach ar agor i bobl sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Ers dechrau pandemig y coronafeirws, mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rôl allweddol wrth helpu rhai o'n preswylwyr mwyaf diamddiffyn ochr yn ochr â'n menter Diogel ac Iach. Rydym nawr yn bwriadu adeiladu ar ein banc presennol o wirfoddolwyr i helpu'r rheini nad oes ganddynt gefnogaeth ffrindiau a theulu.
Mae angen gwirfoddolwyr arnom i helpu preswylwyr â thasgau pob dydd na allant wneud eu hunain.
Gallai hyn gynnwys:
- helpu rhywun gyda'i siopa
- casglu presgripsiynau meddygol o'r fferyllfa leol
- Postio post neu fynd â chi rhywun am dro
- Gwneud galwadau ffôn rheolaidd i wirio bod rhywun yn iawn
Bydd yr holl wirfoddolwyr yn cael hyfforddiant ar-lein cyn dechrau a chânt eu cefnogi'n llawn gan ein Cydlynydd Gwirfoddoli penodol.
Gwneud cais
I wneud cais, cliciwch y ddolen i'n ffurflen ar-lein isod.
Gwneud cais
Cwestiynau Cyffredin
Faint o amser y bydd angen i fi ei roi i ddod yn wirfoddolwr?
Eich penderfyniad chi yw faint o amser a pha ddiwrnodau rydych yn ymrwymo iddynt Gallwch nodi hyn ar y ffurflen gais
Beth os oes rhai tasgau fyddwn i ddim yn hoffi eu gwneud?
Gellir cytuno ar unrhyw dasgau yr hoffech chi neu na hoffech chi eu gwneud neu beidio cyn i chi ddechrau.
A ofynnir i fi fynd y tu mewn i gartref rhywun?
Na. Ni ofynnir i wirfoddolwyr fynd i mewn i gartref person na thorri cyngor iechyd cyhoeddus a roddwyd gan y llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol.
Dwi ddim yn gyrru, alla' i wneud cais o hyd?
Gallwch. Os nad ydych chi'n gyrru gallwn drefnu i chi helpu'r rheini o fewn pellter cerdded i'ch cartref.