Gŵyl y Cofio 2021
Cyngor Castell-nedd Port Talbot ‘Gŵyl y Cofio' 2021
Bob blwyddyn ar Sul y Cofio a Dydd y Cofio, talwn deyrnged i’r rhai a fu’n amddiffyn ein gwlad yn y gorffennol a’r rhai sy’n dal i wneud hynny. Mae’r rhain yn ddiwrnodau pwysig iawn yng nghalendr ein gwlad ac fel rheol byddai’r paratoadau ar gyfer digwyddiadau wedi hen ddechrau. Fodd bynnag, gan ein bod ni’n dal i fyw trwy’r pandemig ac i sicrhau diogelwch pawb sy’n ymwneud â’r diwrnodau arbennig hyn, rydyn ni wedi penderfynu eu nodi mewn modd rhithwir eto eleni.
I nodi’r achlysur mae gennym neges gan Faer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd John Warman a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Chris James, gwybodaeth am wasanaethau lleol Sul y Cofio, a hefyd ‘silff lyfrau’ ar-lein gan adran Llyfrgelloedd CNPT. Hefyd, ar noson Sul y Cofio bydd perfformiad arbennig gan Kirsten Orsborn, ‘Cariad y Lluoedd Arfog’.
Carem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Ŵyl y Cofio eleni ac edrychwn ymlaen at ailgydio yn ein dathliadau arferol cyn hir.
Mae Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cyng John Warman, yn eich gwahodd i gymryd rhan yng Ngŵyl y Cofio rithwir 2021.
Mae eleni’n nodi 100 mlynedd o Apêl Pabi genedlaethol y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Bu’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn trefnu Apêl y Pabi ers can mlynedd ac mae’n parhau i wneud gwahaniaeth i fywydau cymuned ein Lluoedd Arfog.
Mae eich cymorth mor allweddol ag erioed a gallwch ein helpu trwy wirfoddoli neu trwy brynu pabi.
Mae pob unigolyn, rhodd a phabi yn cyfri.
Eleni, mae ein tîm anhygoel yn y Llyfrgelloedd wedi creu ‘silff lyfrau’ ar-lein ar ap Borrowbox, sy’n llawn llyfrau a straeon yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd a mwy.
Llyfrau'n cynnwys:
- War Horse by Michael Morpurgo
- Desert Rats at War by George Forty
- Britain’s Wartime Evacuees by Gillian Mawson
- A mwy….
Eleni, y Bulldogs oedd enillwyr y 'Wobr Iechyd a Lles' yng Ngwobrau Cyn-filwyr 2021 Cymru. Derbyniodd y Bulldogs gydnabyddiaeth am eu gwaith rhagorol yn hyrwyddo, annog a chynnal ffyrdd iach o fyw a llesiant cadarnhaol eu haelodau sy’n gyn-filwyr. Mae pob Cyn-filwr sy’n cofrestru gyda’r Bulldogs yn derbyn aelodaeth am ddim o’r gampfa a mynediad i ddosbarthiadau. A yn ddiweddar agorodd y Bulldogs randiroedd yVeterans ym Maglan
Rhif Ffôn: 01639 820103
Ebost: hello@bulldogsbca.org
Mae’r Hyb yn Llansawel yn croesawu cyn-filwyr bob dydd Mawrth a dydd Iau gan gynnig lle diogel i sgwrsio a thynnu coes. Mae’r aelodau’n cymryd rhan mewn boreau coffi, sesiynau gwaith coed a sesiynau rygbi o dan ofal ‘y Gweilch yn y Gymuned’ a ‘Sefydliad Clwb Pêl Droed Abertawe’.
E-bost: reorghub@gmail.com
Ffôn: 07594192853
Mae Hyb y Cyn-filwyr ar agor bob dydd Mawrth a dydd Iau o 10:00 – 14:30
Port Talbot
Bydd y Parêd yn cychwyn y tu allan i Westy’r Grand, Port Talbot ac yn mynd ymlaen at y Senotaff yn y Parc Coffa, Taibach. Bydd y Parêd yn cychwyn am 10:15am.
Castell-nedd
Cynhelir gwasanaeth yn Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd fydd yn cychwyn am 11am (pawb i fod yn eu sedd erbyn 10.50am).
Hyn a hyn o le sydd yn yr eglwys a bydd rhaid archebu seddi ymlaen llaw trwy Swyddfa’r Plwyf. Os hoffech fod yn bresennol, ffoniwch y Rheithordy ar 01639 644612 rhwng 10am ac 1pm i gadw sedd. Rhaid gwisgo masgiau ar hyd y gwasanaeth gan gynnwys wrth ganu’r emynau a chedwir pellter cymdeithasol rhwng pob sedd.
Pontardawe
Cyfarfod ger y Gofgolofn Ryfel yn Stryd Herbert am 10.30am. Distawrwydd am 11am cyn gosod y torchau.
Glyncorrwg
Cynhelir gwasanaeth ddydd Sul 14 Tachwedd am 11am ar Faes y Pentref, Glyncorrwg.
Glyn-nedd
Bydd y gwasanaeth yn dechrau am 10:40am ond gofynnir i’r mynychwyr ymgasglu am 10:30am yn y Parc Lles, Glyn-nedd.
Yn 2018 derbyniodd Parc Gwledig Margam grant gan y Loteri Genedlaethol i gynnal prosiect treftadaeth gymunedol i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd canlyniadau’r prosiect, o’r enw ‘Cymru’n Cofio’, eu harddangos yn y parc yn ystod mis Tachwedd 2018. Yn ogystal â’r Ŵyl Flodau a’r Wal Deyrngedau Pabi, roedd y prosiect hefyd yn cynnwys ‘Oriel Arwyr Lleol’ yng Nghastell Margam.
Roedd y gwaith, a gynhyrchwyd gan wasanaeth Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot, yn deyrnged unigryw a gwerthfawr i ddynion a menywod a wasanaethodd dros eu gwlad yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar gyfer Gŵyl y Cofio ar lein eleni, rydyn ni’n falch o ddangos yr Oriel Arwyr Lleol’ hwn fel dogfen y gallwch bori drwyddi o gysur eich cartref.
Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb gymorth a chyfraniad pobl Castell-nedd Port Talbot a’r ardaloedd cyfagos. Hefyd, diolch o galon i Jonathan Skidmore, Cymdeithas Hanesyddol Port Talbot a Chyfeillion Parc Margam am eu cyfraniadau.
Deborah John – Swyddog Hyfforddi a Datblygu, Cyngor CnPT
Er cof am y Corporal Dean Thomas John R.E.M.E
Ar ôl cael eu magu gyda’i gilydd ar Fryn Pen-y-Cae, Port Talbot, tri chrwt ‘cyffredin’ a listiodd i wasanaethu’u gwlad yn yr Ail Ryfel Byd oedd Will Thomas, Steve Harris a Jack Baglow, ond daeth y tri adref fel arwyr. Cafodd pob un ei ddrafftio i gatrodau gwahanol, a gwasanaethu tan ddiwedd y rhyfel cyn gallu dychwelyd at eu teuluoedd, diolch byth.
Dyma stori nad yw’n anghyffredin i filoedd o ddynion a merched ledled Prydain, ond yr hyn sy’n anghyffredin yn y stori hon yw bod y tri chyfaill bore oes wedi derbyn y Fedal Filwrol am ddewrder eithriadol.
Dyma ddau o feibion y dynion, David Harris a Brian Thomas, i alw’r straeon i gof.
Yn rhan o’r ŵyl eleni, bydd y gantores wych Kirsten Orsborn yn perfformio am 7pm ddydd Sul 14 Tachwedd ar Facebook Live.
- I gael rhagor o wybodaeth am Kirsten, ewch i’w gwefan