Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Diogelu Oedolion/Plant

Mae gan bawb hawl i fyw'n ddiogel ac yn rhydd o gamdriniaeth

Mae diogelu'n fusnes i bawb. Mae'n ymwneud ag amddiffyn plant ac oedolion rhag camdriniaeth. Ei brif nod yw sicrhau bod plant ac oedolion yn mwynhau iechyd da, yn datblygu'n dda a'u bod yn gallu chwarae rôl lawn ac actif yn eu cymunedau. Gall camdriniaeth ddigwydd yn unrhyw le: mewn teulu a thu allan i'r teulu. Gall unrhyw un gam-drin, gan gynnwys pobl mewn sefyllfa o ymddiriedaeth.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio oedolyn/plentyn mewn perygl fel rhywun:

  • sy'n profi camdriniaeth neu esgeulustod neu sydd mewn perygl o hynny;
  • y mae ganddo anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu'r anghenion hynny neu beidio); ac
  • oherwydd yr anghenion hynny, nid yw'n gallu amddiffyn ei hun rhag y camdriniaeth neu'r esgeulustod, neu'r perygl o hyn.

Gall camdriniaeth ac esgeulustod ymddangos mewn sawl ffordd:

  • CAM-DRIN CORFFOROL
  • CAM-DRIN EMOSIYNOL NEU SEICOLEGOL
  • CAM-DRIN ARIANNOL
  • ESGEULUSTOD
  • CAM-DRIN RHYWIOL
  • ECSBLOETIO (camfanteisio'n rhywiol, camfanteisio troseddol, caethwasiaeth fodern, masnachu pobl gan gangiau o droseddwyr a grwpiau troseddau cyfundrefnol);
  • CAMDRINIAETH RHWNG CYFOEDION (bwlio, ymddygiad rhywiol niweidiol, trais difrifol, yn ymwneud â gangiau);
  • CAM-DRIN AR-LEIN;
  • YMDDYGIAD SY'N NIWEIDIOL YN DDIWYLLIANNOL (anffurfio organau rhywiol merched, priodas dan orfod, trais sy'n seiliedig ar anrhydedd);
  • RADICALEIDDIO - Dylanwad eithafiaeth yn arwain at radicaleiddio.

Gall cam-drin ddigwydd yn unrhyw le, gan gynnwys:

  • yn y cartref
  • mewn cartref gofal, ysbyty neu wasanaeth Yn ogystal â bygythiadau i les plant ac oedolion o fewn eu teuluoedd, gall plant ac oedolion fod yn agored i gael eu cam-drin neu eu hecsbloetio o'r tu allan i'w teuluoedd. Gallai'r bygythiadau hyn godi yn yr ysgol ac mewn sefydliadau addysgol eraill, yn y gweithle, o fewn grwpiau cyfoedion neu yn y gymuned ehangach ac/neu ar-lein.

Cyn atgyfeirio rhywun rydym yn gofyn, lle y bo'n bosib, eich bod chi'n cael caniatâd y person rydych chi'n ei atgyfeirio ymlaen llaw. Mae hyn yn sicrhau ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y person, ac mae cyngor Cymru'n gofyn i ni gael caniatâd cyn rhannu adroddiadau am unrhyw unigolyn. Os nad yw'n bosib (efallai nad oes gan y person y galluedd meddyliol) neu os oes budd pennaf i'r cyhoedd, er enghraifft mae'r cyflawnwr mewn sefyllfa o ymddiriedaeth a gall fod eraill mewn perygl, wedyn byddwn ni’n ystyried cydsyniad gor-redol. Os ydych yn amheus, ffoniwch ni a byddwn yn hapus i'ch cynghori.

Gallwch gysylltu â Thîm Un Pwynt Cyswllt Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (SPOC) (ar agor rhwng 8.30am a 5pm bob dydd Llun i ddydd Iau a 4.30pm ar ddydd Gwener)

SPOC
01639 686802 01639 686802 voice +441639686802

Y tu allan i oriau, gallwch ffonio'r Tîm Dyletswydd Brys ar

01639 895455 01639 895455 voice +441639895455

Gallwch lawrlwytho ffurflen atgyfeirio drwy glicio

  • Integrated Referral Form (DOCX 131 KB)

    m.Id: 25960
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Integrated Referral Form
    mSize: 131 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/14573/integrated-referral-form-_-14520.docx

a'i dychwelyd i/at

If you want to make a complaint visit the Complaints page here

Mae gan bawb hawl i fyw'n ddiogel ac yn rhydd o gamdriniaeth ac esgeulustod. Os ydych chi'n meddwl bod plentyn neu oedolyn mewn perygl dybryd, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999 bob tro.