Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Glan Môr Aberafan

Mae dros £65,000 o arian wedi'i sicrhau gan raglen y Môr Glas a gefnogir gan yr Undeb Ewropeaidd, sy'n ceisio buddsoddi mewn gwelliannau i'r arfordir.

Mae rhaglen y Môr Glas (Gwella Traethau) yn rhan o Brosiect Twristiaeth Arfordirol Croeso Cymru a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Mae arian y Môr Glas wedi helpu i adeiladu rheiliau, seddi a llwybrau mynediad, yn ogystal ag ardal chwarae ag arwyneb diogel a luniwyd yn arbennig, gydag amrywiaeth o gyfarpar chwarae. Mae'r ardal chwarae yn cynnwys nodweddion pwrpasol ynghyd â nodweddion chwarae cyffredinol ac wedi'u dylunio ar thema glan y môr.

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys arwyddion gwybodaeth newydd ar hyd y promenâd a chysgodfa traeth bren yng nghanol y gerddi suddedig.

Mae'r gysgodfa yn darparu seddi a lle i gysgodi o'r tywydd yn y lleoliad sy'n agor i'r elfennau ar lan y môr.  Mae'r gysgodfa ar thema grwynau traeth sy'n ffurfio wal â chanopi uwchben. Bydd seddi ar bob ochr o'r gysgodfa. Cwblhawyd y ddau gynllun ar ddiwedd 2012.

ERDF 2007 - 2013 logo