Cyflwyniad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Awdurdod Priffyrdd ar gyfer ffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd a thraffyrdd yn ardal y fwrdeistref. Gwaith yr Is-adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd yw:
- Rhoi cyngor i'r Is-adran Gynllunio fel ymgynghorai statudol ar faterion priffyrdd.
- Ymdrin ag agweddau ar y briffordd o ymholiadau cyn-gynllunio ar gyfer safleoedd datblygu posib.
- Sicrhau gwelliannau i'r briffordd sy'n gysylltiedig â datblygiadau newydd.
- Rhoi cyngor ar addasrwydd safleoedd arfaethedig i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol.
- Sicrhau bod ffyrdd yn cael eu hadeiladu i safonau gofynnol yr awdurdod fel eu bod yn addas i'w mabwysiadu.
- Archwilio'r lluniadau ar gyfer priffordd newydd neu addasiadau i'r briffordd sy'n gysylltiedig â datblygiadau newydd.
- Ymateb i Geisiadau Trwydded Gweithredwyr Cerbydau Nwyddau.
- Ymateb i geisiadau masnachu ar y stryd.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol hefyd ac fel rhan o hyn mae'r Is-adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd yn ymdrin â a chaniatáu cyrsiau dŵr.
Justin Griffiths yw Rheolwr yr adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd Justin Griffiths (01639 686850)
Cyfeiriad
Adran yr Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Y Ceiau, Parc Ynni Baglan, Llansawel SA11 2GG.