Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwneud Hawliad Yswiriant

Mae llawer o drigolion yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd wedi gofyn inni ble i gael cyngor am yswiriant.

Cyngor i'r rhai sydd ag yswiriant:

  • Cysylltwch â'ch yswirwyr cyn gynted â phosibl i rhoi gwybod iddynt am y difrod o'r llifogydd
  • Darllenwch eich polisi a deallwch yr yswiriant sydd gennych ar waith.
  • Gofynnwch iddyn nhw am fanylion ar sut i wneud hawliad ac a fyddan nhw'n anfon addasydd colli yswiriant
  • Tynnwch ffotograffau neu fideo o'r difrod i'ch cartref a'ch cynnwys    
  • Peidiwch â thaflu unrhyw eitemau sydd wedi'u difrodi nes eich bod wedi trafod gyda'ch yswiriwr.
  • Bydd rhai cwmnïau yswiriant yn cynnig swm penodol i chi setlo'r hawliad – cyn derbyn bod yn siŵr eich bod yn deall yr hyn y maent yn ei gynnig ac a yw'n rhesymol. 
  • Os oes angen help arnoch i waredu eitemau sydd wedi'u difrodi gan lifogydd, anfonwch e-bost atom yn environment@npt.gov.uk i rhoi gwybod i ni pan fyddwch yn rhoi eitemau allan i'n tîm gwastraff eu casglu.

Mae rhagor o wybodaeth am wneud hawliad Yswiriant ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Downloads

  • Association of British Insurers - Flood Guide Poster (PDF 118 KB)

    m.Id: 27275
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Association of British Insurers - Flood Guide Poster
    mSize: 118 KB
    mType: pdf
    m.Url: /media/15146/abi-the-flood-claims-process.pdf