Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Canolfan Gefnogi Digwyddiad i Drigolion ac Amseroedd Agor

Bydd ein Canolfan Gefnogi Digwyddiad i Drigolion yn Ysgol Gynradd Abbey yn aros ar agor yr wythnos nesaf (dydd Llun 8 i ddydd Gwener 12 Chwefror, 9yb i 5yp) i gynnig help, gwybodaeth a chyngor i breswylwyr lle mae'r llifogydd yn Sgiwen wedi effeithio arnynt.

Yn y Ganolfan, gallwch gael help gyda:

  • Cymorth Tai
  • Gwasanaethau cymdeithasol – e.e. cymorth lles, cymorth hawliau lles, gwybodaeth, cymorth a chyngor
  • Gwybodaeth am ddiogelwch cymunedol
  • Gwybodaeth ar sut i wneud eich cartref yn ddiogel rhag tân ynghyd â darparu larymau mwg a charbon monocsid am ddim
  • Cwblhau cais am Grant Cymorth Llifogydd Sgiwen
  • Cymorth a Chyngor Iechyd yr Amgylchedd

Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles ar yr adeg anodd hon, gallwch hefyd gael gafael ar gymorth ac adnoddau o'r gwefannau a'r sefydliadau isod

Os oes angen cymorth arnoch y tu allan i'r oriau hyn, ffoniwch

  • 01639 686868 ar gyfer ymholiadau cyffredinol
  • 01639 685219 ar gyfer anghenion tai mewn argyfwng
  • 01639 895455 ar gyfer Tîm Dyletswydd Brys y Gwasanaethau Cymdeithasol