Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ymgynghoriad Cyllideb Cyngor CPT – Cwestiynau a Ofynnir yn Aml ac Awgrymiadau

Rhaid i’r Cyngor ddarparu rhai gwasanaethau penodol yn gyfreithiol, ac mae rhyw gymaint o’r arian rydyn ni’n ei dderbyn (e.e. ar gyfer adfywio) yn cael ei neilltuo gan y corff ariannu ar gyfer pwrpas penodol – mae hyn yn golygu nad oes hawl gyda ni i’w wario ar bethau eraill.

Pwrpas arian wrth gefn yw helpu cynghorau i reoli risg ariannol i wasanaethau lleol. Rhaid i gynghorau gael arian wrth gefn yn ôl y gyfraith. Dim ond unwaith y gellir defnyddio arian wrth gefn, felly byddai’u defnyddio i lenwi twll yn y gyllideb yn gohirio penderfyniadau anodd tan y flwyddyn nesaf, a dim byd mwy, a byddai’n golygu na fyddai arian ar gael ar gyfer digwyddiadau na ellir mo’u rhagweld e.e. Covid, Llifogydd Sgiwen.  

Pan fuddsoddodd y Cyngor ym manciau Gwlad yr Ia, a’u his-gwmnïau yn y DU, roedd gan y banciau hynny’r gyfradd gredyd uchaf posib.

Mae’r £20m a fuddsoddwyd yn wreiddiol wedi cael ei ad-dalu erbyn hyn.

Mae’n bwysig fod trigolion, busnesau a grwpiau a sefydliadau lleol eraill yn cael lleisio’u barn ar y cynigion, er mwyn i unrhyw benderfyniad terfynolfod mor wybodus â phosib am anghenion Castell-nedd Port Talbot.

Gan Gastell-nedd Port Talbot y mae’r gyfradd treth cyngor drydedd uchaf yng Nghymru. Mae hyn yn bennaf yn deillio o ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 pan dderbyniodd y cyngor hwn gyfran anghymesur o isel o gyllid Llywodraeth Cymru o’i gymharu ag awdurdodau cyfagos. Mae hyn yn dal i fod yn fater llosg parhaus y mae Aelodau etholedig yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag ef.

Yn 2020/21 cynnydd treth y cyngor yng Nghastell-nedd Port Talbot oedd 3.79% – yr ail isaf yng Nghymru.

Mae’n hawdd ailgylchu. Mae pawb ohonom wedi datblygu’r arfer o roi sbwriel yn y bin, a’r cyfan yw ailgylchu yw datblygu arfer dda yn hytrach nag arfer ddrwg. Efallai y byddwch chi’n synnu i wybod fod llai na 3.6% o dreth cyngor y rhan fwyaf o bobl Castell-nedd Port Talbot yn talu am gasglu sbwriel ac ailgylchu, sy’n gyfwerth â 80c yr wythnos.

Cofiwch, yr un sbwriel yw e, mewn bagiau, biniau neu flychau ar wahân. 

Yng Nghymru, nid awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am Drethi Busnes. Gosodir Gwerth Trethadwy (RV) eiddo, sef gwerth rhentadwy eiddo mewn egwyddor, gan y Swyddfa Brisio (Llywodraeth Ganolog) a gosodir lluosogydd a gymhwysir i’r RV gan Lywodraeth Cymru. Y cyfan mae cynghorau Cymru’n gyfrifol amdano yw gweinyddu biliau, sef anfon y biliau a chasglu’r arian ar ran Llywodraeth Cymru. Yn ystod pandemig Covid, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu pecyn o gymorth trethi busnes sydd wedi cynorthwyo 3,000 o fusnesau. Ystyr hyn yw na wnaethon nhw dalu dim trethi busnes yn ystod 2020/21.

Mae gan y Maer rôl benodol yn y cyngor. Angen statudol yw cael rhywun i gadeirio cyfarfod y cyngor llawn, rôl y mae’r Maer yn ei chyflawni. Fel dinesydd cyntaf Castell-nedd Port Talbot, bydd y Maer yn ymgymryd â thros 300 o ymgysylltiadau bob blwyddyn, gan gynrychioli’r fwrdeistref sirol mewn digwyddiadau ffurfiol, a chefnogi ac annog ymlynuad cymunedol. Mae’r Maer hefyd yn codi arian sylweddol ar gyfer elusennau. I gael rhagor o wybodaeth ewch i  www.npt.gov.uk/mayor

Mae cynghorwyr yn chwarae rhan bwysig wrth gynrychioli’u wardiau a’r bobl sy’n byw yno.

Comisiwn Democratiaeth Lleol a Ffiniau Cymru sy’n gyfrifol am gynnal adolygiadau o drefniadau etholiadau awdurdodau lleol, gan gynnwys sawl cynghorydd sydd ar bob cyngor. I gael mwy o wybodaeth ewch i https://bcomm-wales.gov.uk/. Ni all y cyngor newid maint y cyngor, dim ond Llywodraeth Cymru all roi newidiadau o’r fath ar waith.

Penderfynir ar gyflog gweithwyr y cyngor yn genedlaethol gan nifer o gyrff trafod cenedlaethol, gan gynnwys y Cyd-gyngor Cenedlaethol dros Wasanaethau Llywodraeth Leol, y Cyd-gyngor Cenedlaethol dros Brif Swyddogion, y Cyd-gyngor Cenedlaethol dros Brif Weithredwyr, Cyngor Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol a Phwyllgor Soulbury. Yn achos athrawon ysgol, penderfynir ar eu cyflog hwy gan Lywodraeth Cymru.

Darperir gwasanaethau’r cyngor gan bobl, ac mae’r rhan fwyaf o’r bobl a gyflogir gennym yn byw ac yn gweithio yn y Fwrdeistref Sirol hon. Rydyn ni eisiau sicrhau fod gwasanaethau’r cyngor gystal fyth ag y gallant fod, felly mae ein polisi cyflog yn ceisio sicrhau y gallwn ddenu, cadw ac ysbrydoli’r gweithwyr gorau gyda’r sgiliau cywir i ddarparu ein gwasanaethau. Rhaid cydbwyso hyn, wrth gwrs, yn erbyn yr angen i sicrhau fod y trethdalwr lleol yn cael y gwerth gorau am arian. Y cyngor yw un o’r prif gyflogwyr yn yr ardal hon ac mae’n bwysig fod y cyngor yn gallu cynnig cyflogaeth o safon uchel ar delerau ac amodau rhesymol a chyfraddau teg o gyflog. Bydd hyn yn cael effaith ffafriol ar ansawdd bywyd yn y gymuned yn ogystal ag ar yr economi leol.

Na. Rhaid o bob aelod o staff dalu i barcio mewn meysydd parcio ‘talu ac arddangos’ neu swyddfeydd dinesig yn unol â’r ‘Cynllun Parcio Ceir Staff ac Aelodau’.

Nid yw cyflogeion Cyngor CPT yn cael taliadau bonws.  

Mae’r Cyngor wedi bod yn cynnal rhaglen gynyddol o leihau niferoedd staff ers 2013, gan ddod â nifer y staff sy’n gweithio i’r cyngor i lawr gan ryw 25% yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae Polisi Recriwtio’r Cyngor yn gofyn ar i reolwyr llinell ystyried a oes angen i unrhyw swydd wag gael ei llenwi, ac i adolygu a oes dewis amgen. Mae’r polisi recriwtio hefyd yn gofyn ar i swyddi gael eu hystyried yn y lle cyntaf ar gyfer unrhyw weithwyr sydd mewn perygl o golli’u swydd, ac mae’r Cyngor wedi gweithredu polisi llwyddiannus o osgoi dileu swyddi’n orfodol, a pharhau i leihau niferoedd cyffredinol ar yr un pryd