Partneriaeth Disgyblion a Rhieni
Mae CNPT wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Phlant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'u rhieni/gofalwyr.
Mae'r Gwasanaeth Partneriaeth Disgyblion a Rhieni yn rhan o'r Gwasanaeth Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac mae'n darparu cyngor, arweiniad a gwybodaeth ddiduedd mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud ag ADY a'r system ADY, gan gynnwys y broses asesu, beth i'w wneud os bydd anghytundeb yn codi a phontio.
Drwy fabwysiadu dull sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, ein nod yw helpu rhieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc i gymryd rhan mor llawn â phosibl yn y broses o wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod eu barn a'u dymuniadau'n cael eu clywed.
Gallwn gynnig y gwasanaeth hwn dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy drefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn lleoliad y cytunwyd arno.
Ein manylion cyswllt yw:
- Ffôn - 01639 763158
- ebost - ALNST@npt.gov.uk
Yn ogystal â'n gwasanaeth, efallai y byddwch hefyd am cyngor neu gefnogaeth gan eich Cefnogwr Rhieni Annibynnol lleol SNAP Cymru
Gweld Cwestiynau Cyffredin