Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cwestiynau Partneriaeth Rhieni

Os yw eich plentyn:

  • ddim wedi dechrau yn yr ysgol eto, trafodwch eich pryderon gyda'ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu neu weithwyr proffesiynol eraill;
  • yn mynychu'r cylch chwarae, trafodwch eich pryderon gydag arweinydd eich cylch chwarae;
  • eisoes yn yr ysgol, trafodwch eich pryderon gyda'r athro dosbarth yn y lle cyntaf, a fydd am siarad â chi am ffyrdd i helpu eich plentyn. 

Mae gan bob ysgol Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a all ddarparu cyngor a chefnogaeth i staff yr ysgol, rhieni a phlant.  Mae gan bob ysgol bolisi hefyd ar gyfer diwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), y gallwch ofyn am gopi ohono.

Os oes gan eich plentyn ADY mae yna lawer o ffyrdd y gall ysgol helpu ac, os oes angen, gall gael gafael ar gymorth arbenigol i gefnogi'ch plentyn.

 

Os ydych wedi drysu ynglŷn â'r system ADY, gallwch ofyn am gyngor gan y canlynol:

Os ydych yn anhapus â'r ddarpariaeth sydd ar waith i gefnogi ADY eich plentyn, y cam cyntaf yw siarad â'r athro dosbarth, Gydlynydd ADY yr ysgol a/neu'r Pennaeth.

Os nad yw hyn yn bosibl, neu ar ôl siarad â nhw, mae angen cyngor a chymorth pellach arnoch, yna gellir cysylltu â Gwasanaeth Partneriaeth Disgyblion a Rhieni yr Awdurdod Lleol neu SNAP Cymru

Gall Gwasanaeth Partneriaeth Disgyblion a Rhieni yr Awdurdod Lleol neu SNAP Cymru eich helpu i ddatrys anghytundebau a allai ddigwydd.

Os nad yw eich plentyn, er iddo gael cymorth a chefnogaeth yn yr ysgol dros gyfnod o amser, yn gwneud gwelliant, bydd yr ysgol yn ystyried gofyn i'r Awdurdod Lleol gynnal asesiad statudol. Asesiad amlddisgyblaethol yw hwn, sy'n ymchwiliad manwl i sefydlu Anghenion Dysgu Ychwanegol posibl eich plentyn (ADY).   Er mwyn helpu i benderfynu a oes angen asesiad statudol ai peidio, byddwn yn casglu gwybodaeth am eich plentyn a'i gwelliant yn yr ysgol, yn ystyried eich barn chi a barn eich plentyn, a byddwn yn gofyn am gyngor gan weithwyr proffesiynol perthnasol.

O fewn chwe wythnos ar ôl  dderbyn cais am asesiad statudol, byddwn yn rhoi gwybod i chi a'r ysgol yn ysgrifenedig, a ydym o'r farn bod angen asesiad statudol.

Os penderfynwn nad oes angen asesiad statudol byddwn yn egluro pam rhydym wedi dod i'r penderfyniad hwn ac yn egluro beth allwch chi ei wneud nesaf.

Os byddwn yn penderfynu bod angen asesiad statudol ar eich plentyn byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â chi, yr ysgol a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill, a allai fod yn gweithio gyda chi a'ch plentyn eisoes.

Cam 1 – Cysylltu

Os bydd yr Awdurdod yn penderfynu bod angen asesiad statudol ar eich plentyn, bydd Swyddog Cyswllt o'r Gwasanaeth Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cysylltu â chi i gynnig gwneud apwyntiad i gyfarfod.

Cam 2 – Cyfarfod â'ch Swyddog Cyswllt

Yn y cyfarfod hwn, bydd eich Swyddog Cyswllt yn esbonio'r gweithdrefnau ar gyfer asesu statudol ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gofynnir i chi hefyd lenwi ffurflen sy'n rhoi eich caniatâd i'ch plentyn gael ei asesu.

Yna gofynnwn i bawb sydd wedi bod yn gweithio gyda'ch plentyn ysgrifennu adroddiadau.  Gall y rhain gynnwys Pediatregwyr Cymunedol, Seicolegydd Addysg, Ymwelwyr Iechyd, Cynorthwywyr Addysgu, Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Y Gwasanaeth Portage, Gweithwyr Cymdeithasol, Athrawon Arbenigol a Therapyddion Lleferydd ac Iaith.  Gelwir yr adroddiadau hyn yn Gynghorion.

Gofynnir i chi hefyd rhoi eich barn yn Gyngor i Rhieni. Gall ein Swyddogion Cyswllt Teulu eich cefnogi i gwblhau hyn.

Cam 3 – Gohebiaeth

Byddwch yn derbyn o leiaf 3 llythyr:

  • cadarnhau bod yr asesiad statudol yn dechrau
  • rhoi dyddiad ac amser ar gyfer yr apwyntiad meddygol
  • rhoi dyddiad ac amser ar gyfer apwyntiad gyda'r Seicolegydd Addysg. (Efallai na fydd hyn yn angenrheidiol os yw'r Seicolegydd Addysg wedi gweld eich plentyn yn ddiweddar).

Cam 4 – Y Panel Anghenion Addysgol Arbennig

Grŵp o 6 o bobl fel arfer yw hwn, sy'n cynnwys swyddogion addysg, Seicolegydd Addysg, athro arbenigol, Penaethiaid ysgolion lleol ac enwebeion yn ffurfio mudiadau gwirfoddol lleol. Mae'r Panel yn cyfarfod o leiaf unwaith bob wythnos yn ystod y tymor; bydd aelodau'r grŵp yn amrywio o gyfarfod i gyfarfod.

Pan fydd yr holl Gynghorion wedi dod i law, bydd y Panel Anghenion Addysgol Arbennig yn trafod eich plentyn ac yn ystyried yr holl gyngor ysgrifenedig yn ofalus iawn. Yna byddant yn gwneud argymhellion ynghylch y cymorth sydd ei angen ac yn penderfynu a oes angen Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig ar eich plentyn.

Dim ond os na ellir darparu'r yn rhesymol y cymorth sydd ei hangen ar eich plentyn o'r adnoddau sydd ar gael i ysgolion prif ffrwd y bydd angen Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig.

Cam 5 – Penderfyniad y Panel Anghenion Addysgol Arbennig

Bydd eich Swyddog Cyswllt yn cysylltu â chi yn dilyn Panel Anghenion Addysgol Arbennig i rhoi gwybod i chi am y penderfyniad a wnaed.

Yn fuan ar ôl hyn, byddwn yn anfon naill ai’r Datganiad yr ydym yn bwriadu ei gyhoeddi ar gyfer eich plentyn, neu "Nodyn yn ei le". Yn y naill achos neu'r llall, byddwn hefyd yn anfon yr holl Gynghorion a gawsom atoch, fel rhan o'r broses Asesu Statudol.   Bydd copi o'r Datganiad Arfaethedig, ond nid y Cynghorion, hefyd yn cael ei anfon at bawb a ysgrifennodd adroddiadau am eich plentyn.  Ar hyn o bryd, mae gennych chi, fel rhiant, yr hawl i enwi unrhyw ysgol brif ffrwd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Dylech fod yn ymwybodol, os ydych yn dymuno i'ch plentyn fynd i ysgol ar wahân i'w hysgol brif ffrwd ddynodedig, efallai na fydd eich plentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol.

Os ydych am ymweld ag unrhyw ysgol y soniwyd amdani yn yr argymhellion, gall eich Swyddog Cyswllt Teulu eich helpu i wneud apwyntiad.

Cam 6 – Cyhoeddi datganiad terfynol neu nodyn yn ei le

Os yw'ch plentyn i gael Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, bydd Datganiad Terfynol yn cael ei rhoi i chi tua 15 diwrnod ar ôl y Datganiad Arfaethedig. Bydd y Datganiad Terfynol yn disgrifio Anghenion Dysgu Ychwanegol eich plentyn fel y nodwyd yn ystod yr asesiad a'r ddarpariaeth i ddiwallu'r anghenion hynny, gan gynnwys lleoliad.

Os bydd eich plentyn yn cael Nodyn yn ei le, trefnir cyfarfod rhyngoch chi, yr ysgol a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill, i drafod sut y bydd yr ysgol yn gallu cefnogi eich plentyn gyda'r argymhellion.

Mae Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn gyfarfod sy'n ceisio sicrhau bod Datganiad Anghenion Addysg Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol  y plentyn / person ifanc yn briodol.

Mae'r cyfarfodydd yn sicrhau bod gan blentyn neu berson ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol y gefnogaeth gywir ar waith i'w helpu i gyflawni eu dyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhoi barn a dymuniadau'r plentyn / person ifanc wrth galon yr adolygiad. Gellir dod o hyd i rhagor o wybodaeth drwy ddilyn y dolenni canlynol Taflen Adolygu sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ar gyfer teuluoedd, a thaflen Adolygu sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae hefyd dogfennau a all eich helpu chi a'ch plentyn i baratoi ar gyfer yr adolygiad hwn. Gellir dod o hyd i'r rhain drwy glicio ar y ddolen ganlynol taflen baratoi Adolygu sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ar gyfer teuluoedd a thaflen baratoi Adolygu sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ar gyfer plant a phobl ifanc.

Os ydych yn anhapus gydag ymarfer neu ddarpariaeth a ddarperir gan Iechyd, yn y lle cyntaf dylech godi eich pryderon gyda'r staff sy'n ymwneud â'ch gofal neu driniaeth. Byddant yn ceisio datrys eich pryderon ar unwaith.

Os nad yw hyn yn helpu, mae manylion am sut i godi pryder i'w gweld yn y daflen Rhoi Pethau'n Iawn y GIG.

Mae amrywiaeth o gymorth ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar adegau allweddol o bontio.

Gellir dod o hyd i rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â'r gweithwyr pontio o fewn  Gwasanaeth Partneriaeth Disgyblion a Rhieni'r Awdurdod Lleol.