Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ailgylchu Tecstilau

Nid ydym bellach yn casglu tecstilau wrth ymyl y ffordd a dylid defnyddio'ch blwch ailgylchu (â chlawr) ar gyfer papurau a chylchgronau'n unig.

Rydym wedi darganfod bod tecstilau sy'n cael eu casglu yn y ffordd hon yn mynd yn halogedig ac mae parau o esgidiau yn cael eu gwahanu, sy'n golygu na allwn eu hanfon i gael eu hailddefnyddio. 

Gallwch fynd â thecstilau i'ch canolfan ailgylchu leol.

I ble y gallaf fynd â dillad ac esgidiau y gellir eu hailddefnyddio?

Cadwch lygad am unrhyw ddigwyddiadau cymunedol.  Mae rhai sefydliadau cymunedol yn trefnu digwyddiadau ailgylchu dillad, lle gall sefydliadau cymunedol godi arian gyda'r dillad rydych chi'n eu rhoi.

Gallwch fynd â thecstilau o ansawdd da, gan gynnwys dillad ac esgidiau y gellir eu hailddefnyddio, i siopau elusen a banciau dillad.

Beth am ddillad nad ydynt mewn cyflwr digon da i'w hailddefnyddio?

Bydd rhai banciau dillad a banciau dillad archfarchnadoedd yn derbyn hen decstilau sydd wedi treulio neu wedi'u difrodi.

Rydym yn ymwybodol bod rhai manwerthwyr yn cynnig cynlluniau ailgylchu lle gallwch dderbyn gostyngiad yn y siop lle'r ydych yn ailgylchu'ch dillad neu esgidiau. Mae hyn yn cynnwys M&S, H&M a Schuh.

Ewch i'w gwefan am ragor o wybodaeth.