Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Manteision Cerdded i'r Ysgol

Mae'n bwysig bod plant a rhieni yn cael eu hannog i gerdded yn ôl ac ymlaen i'r ysgol am lawer o wahanol resymau, er enghraifft: -

Iechyd

Mae annog cerdded yn cynyddu hyrwyddiad ymarfer corff er mwyn mynd i'r afael â materion gordewdra cynyddol.

Diogelwch

Pe bai mwy o bobl yn cerdded yn ôl ac ymlaen i'r ysgol, byddai llai o geir ar y ffyrdd, llai o geir wedi'u parcio ar y marciau melyn Zig-Zag, llai o dagfeydd o amgylch ein hysgolion, llai o lygredd a llai o blant wedi'u hanafu ar ein ffyrdd.

Cymdeithasol

Mae cerdded yn caniatáu mwy o gyfleoedd i rieni gyfathrebu â'u plant ar y daith i'r ysgol ac yn rhoi cyfle iddynt ddysgu sgiliau diogelwch ar y ffyrdd i'w plant yn rheolaidd.