Tai Cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot
Gwneud cais am Dai Cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot
Nid yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn berchen ar unrhyw dai a fflatiau sydd ar gael i'w rhentu mwyach. Trosglwyddwyd yr holl dai cyngor i Tai Tarian (Cartrefi CNPT yn flaenorol) yn 2011, ac ers hynny mae'r cyngor a Tai Tarian wedi dilyn Polisi Gosodiadau Ar y Cyd, ond mae Tai Tarian bellach yn berchen ar ac yn rheoli'r stoc tai hynny. Adolygwyd y polisi hwn yn ddiweddar a chymeradwywyd fersiwn ddiwygiedig gan y cyngor ar 9 Rhagfyr 2021, yn dilyn ymarfer ymgynghori cyhoeddus. Fodd bynnag ni chaiff ei roi ar waith tan fis Ebrill 2022, ac felly, caiff ei gyhoeddi ar y dudalen hon yn agosach at y dyddiad hwnnw, ond gellir ei weld ar y tudalen Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet (Yn Saesneg) yn y cyfamser.
Felly, mae'r holl dai cymdeithasol i'w rhentu bellach yn eiddo i'r Cymdeithasau Tai canlynol ac felly dylech wneud cais iddyn nhw'n uniongyrchol - oni bai eich bod yn ddigartref neu dan fygythiad o ddod yn ddigartref o fewn y 56 diwrnod nesaf.
Os oes angen myw o wybodaeth am sut i gwneud cais ar gyfer unrhyw fath arall o dai, e-bostiwch housing.strategy@npt.gov.uk