Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwisgo Helmed yn Gywir

  • Sicrhewch fod yr helmed o'r maint cywir.
  • Dylai ffitio'n glyd a bod yn gyffyrddus i'w wisgo.
  • Pan fyddwch chi'n ysgwyd neu'n nodio'ch pen dylai'r helmed aros yn ddiogel.
  • Dylai ymyl yr helmed eistedd ar y talcen, ychydig uwchben yr aeliau.
  • NI ddylid gogwyddo'r helmed yn ôl gan adael y talcen yn agored neu ei dipio mor bell ymlaen mae'n gorchuddio'r llygaid ac yn rhwystro'ch gallu i weld.
  • Rhaid peidio â throelli'r strapiau ac ni ddylai fod llac ynddynt.
  • Mae'r mwyafrif o strapiau helmet yn ffurfio siâp 'V' ychydig o dan y llabed glust.
  • Sicrhewch nad yw'r helmed yn effeithio ar eich gallu i glywed.
  • Mae gwrando yn rhan bwysig o ddiogelwch beicio.
  • Prynwch helmed sy'n cwrdd ag un o'r safonau hyn yn unig: BS EN 1078, SNELL B95, AS / NZS 2063 ac mae'n dangos y marc CE.