Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Pwy all gael bathodyn glas a sut i wneud cais

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn yrrwr neu'n deithiwr mewn cerbyd wrth ddefnyddio Bathodyn Glas.

Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am ddarparu tystiolaeth ategol ac am unrhyw gost o dystiolaeth feddygol annibynnol.

Sut i wneud cais

Bydd angen llun digidol diweddar arnoch yn dangos eich pen a'ch ysgwyddau

Bydd hefyd angen llun neu sgan o'ch:

  • prawf adnabod (megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded yrru)
  • prawf o gyfeiriad (fel bil Treth y Cyngor neu lythyr gan y llywodraeth)
  • prawf o fudd-daliadau (os cewch chi rhai)

Bydd angen i chi wybod hefyd:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych un)
  • manylion eich Bathodyn Glas presennol (os ydych yn ailymgeisio)

Defnyddiwch y botwm isod i wirio eich cymhwysedd a gwneud cais am Fathodyn Glas ar GOV.UK:

Dechreuwch Nawr