Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig
Pwrpas yr arfarniad yw edrych ar effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol tebygol y CDLlA.
Bydd yr ACI yn ymgorffori:
- Arfarniad Cynaliadwyedd
- Asesiad Amgylcheddol Strategol
- Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb
- Asesiad Effaith ar Iechyd ac
- Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg
Bydd yn edrych ar y strategaeth, y polisïau a’r cynigion yn y cynllun i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy.
Bydd yr ACI yn cyflawni rhan bwysig o’r gwaith o ddangos bod y CDLlA yn gadarn. Mae’n elfen annatod o bob cyfnod o baratoi’r cynllun, ac yn llywio’r CDLlA o’r cychwyn cyntaf i’w fabwysiadu.
Adroddiad Rhychwantu’r ACI yw cyfnod cyntaf proses yr ACI, a bydd yn cofnodi sut mae’r Awdurdod yn bwriadu asesu cynaliadwyedd y CDLlA.
Gwelwch Adroddiad Rhychwantu ACI
Gwelwch yr Adroddiad Rhychwantu Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig - Crynodeb Annhechnegol
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)
Mae’r asesiad hwn yn profi a fyddai’r CDLlA yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar unrhyw safleoedd sydd â phwysigrwydd Ewropeaidd – megis Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAoedd). Mae tair ACA yn rhannol oddi mewn i ffiniau Castell-nedd Port Talbot ac mae ystod o rai eraill yn y rhanbarth y gallai cynigion y CDLlA effeithio arnynt.
Mae’n rhaid cynnal ARhC y CDLlA ochr yn ochr â’r ACI, ond ar wahân iddo. Bydd canfyddiadau’r naill broses a’r llall yn llywio pob asesiad. Cynhelir yr ARhC ar hyd y broses o baratoi’r CDLlA.