Archwiliad ac Adroddiad yr Arolygydd
Nid yw’r CDLlA wedi cyrraedd y cyfnod hwn eto.
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio (ar ran Llywodraeth Cymru) yn archwilio’r cynllun adnau. Bydd yr Arolygydd yn ystyried y sylwadau a gyflwynwyd ac adroddiad terfynol yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI).
Nod yr archwiliad yw sicrhau bod y cynllun yn “gadarn”, a bod barn pawb a gyflwynodd sylwadau wedi cael ei hystyried. Mae tri chategori o brofion “cadernid”: gweithdrefnol, cysondeb a chydlyniad/effeithiolrwydd.
Rhan o’r broses archwilio yw Archwiliad Cyhoeddus (EIP), lle mae gan bawb a gyflwynodd sylwadau hawl i ymddangos a chael eu clywed mewn gwrandawiadau.
Yn dilyn yr Archwiliad, bydd yr Arolygydd yn paratoi adroddiad. Bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu unrhyw newidiadau y dylid eu gwneud i’r cynllun, gan esbonio pam mae angen amdanynt. Mae cynnwys yr adroddiad ac argymhellion yr Arolygydd yn rhwymol i’r Cyngor.