Prisiau Metroleg 2020-2021
Mae Safonau Masnach yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gwirio metroleg, fel y nodir yn y ddewislen ar y chwith. Atodir rhestr o ffïoedd a thaliadau a godir am brofi cyfarpar pwyso neu fesur penodol.
Pwyso a Mesur Cyhoeddus
Cysylltwch â'r adran am fwy o gyngor trwy ffonio 01639 686868 neu e-bostio tsd@npt.gov.uk
Ffïoedd Cyffredinol
Pan fydd swyddog Safonau Masnach yn ymweld ag unrhyw eiddo er mwyn cyflawni unrhyw un o'r swyddogaethau neu'r gweithgareddau a restrir isod, gellir codi isafswm tâl fesul ymweliad swyddog.
Ffi (£) |
Y Tu Allan I Oriau |
|
---|---|---|
Isafswm Tâl fesul Ymweliad Swyddog | 90.34 | Tâl ychwanegol sy'n 50% o'r ffi/gyfradd awr safonol. |
- Am unrhyw waith na thelir amdano gan y ffïoedd hyn, neu sy'n amrywio'n sylweddol neu'n cael ei wneud o dan amgylchiadau eithriadol, gellir cyfrifo tâl priodol gan ddefnyddio'r gyfradd awr.
- Gellir codi tâl ychwanegol sy'n 50% o'r ffi safonol neu'r gyfradd awr safonol fesul swyddog yr awr ar ymweliadau a wneir yn rhannol neu'n hollol y tu allan i oriau swyddfa arferol.
- Mae'r arweiniad yn ymwneud â chost profi eitemau unigol. Ni ddylai awdurdodau deimlo na allant amrywio'r ffi a ddyfynnir mewn amgylchiadau lleol penodol. Er enghraifft, gallai fod yn briodol gostwng ffïoedd dan yr amgylchiadau canlynol:
- Pan fo mwy nag un eitem yn cael ei chyflwyno ar un adeg ac yn benodol pan fo'n ymwneud â symiau mawr;
- Pan ddarperir cyfleusterau, cyfarpar neu gymorth gan y cyflwynwr trwy drefniant ymlaen llaw
- Pan nad oes unrhyw amser teithio swyddog i'w ystyried.
- Yn sgîl trafodaethau blaenorol ag Adran Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi, penderfynwyd NA ddylid ychwanegu TAW at ffïoedd, ar wahân i'r rhai a godir at ddibenion Adran 74 Deddf Pwysau a Mesurau 1985. Mae hyn oherwydd bod gwaith awdurdodau lleol yn cael ei ystyried yn weithgaredd nad yw'n ymwneud â busnes. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa wedi newid erbyn hyn. Lle bo'n berthnasol, caiff TAW ei chynnwys. Gweler Hysbysiad Tollau Tramor a Chartref 749 – Awdurdodau a Chyrff Tebyg (Ebrill 2002) am fwy o fanylion. Nid yw'r prisiau a restrir isod yn cynnwys TAW.